Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gobeithio eto cawn ryw ddydd ei gwrddyd,
Heb ysgar mwy, yn ngwlad y pur ddedwyddyd.
S. A. EDWARDS (ei ferch).



I'w lwch boed heddwch o hyd,—hyd adeg
Y dedwydd adferyd,
Pan fydd eto 'n gwisgo i gyd
Ei sanctaidd dlws ieuenctyd.

T. BRIWNANT EVANS.