yn gofyn nac yn disgwyl am yr un. Galwodd Abraham allan o Ur y Caldeaid pryd nad oedd yr un eglwys mewn gwewyr am hyny. Nid oedd awydd mawr chwaith ar y genedl i ddyfod allan o'r Aipht pan anfonodd Duw Moses i'w gwaredu; eto, gellid edrych ar y genedl wedi cael ei thraed i'r anialwch tu hwnt i'r mor, fel un wedi ei "geni ar unwaith." Ond digon tebyg mai at y lliosogiad a fu ar yr eglwys Gristionogol ar ol dydd y Pentecost y cyfeirir yn y geiriau, ac hefyd at ddyfodiad disymwth y cenhedloedd i fewn iddi, pryd nad oedd dim teimlad yn yr eglwys Iuddewig am hyn; ond yn hytrach teimlent duedd i'w gwrthod. Ond, bendigedig fyddo Duw, "galwodd y rhai nid oeddynt bobl yn bobl, a'r rhai nid oeddynt anwyl yn anwyl." Gwna Duw bethau rhyfedd a'i ben—arglwyddiaethol ras yn unig, ac y mae yn werth i ni feddwl am hyny yn y dyddiau hyn.
II. AT FFORDD GYFFREDINOL DUW O LIOSOGI EI EGLWYSSef yr un fath ag y mae plant yn cael eu geni, trwy i'r fam glafychu ac esgor. Mae y peth a all Duw wneyd yn gysur mawr i'w eglwys, ond wrth ei reol gyffredinol o weithredu y mae Seion i ddisgwyl. Gwna Duw yn fynych gipio pentewyn o deulu digon annuwiol, prydnad oedd eglwys na thad na mam yn meddwl fawr am ei enaid; ond nid yw hyny yn dangos y gall neb fod yn ddifater, gan mai rheol Duw yw achub mewn canlyniad i deimlad awyddus am hyny. A gwna di dad neu fam gofio, ei bod hi yn amheus iawn a wna Duw achub dy blant di, heb gael gwasgfa enaid ynot ti yn gyntaf am hyny.
Mae yn gysylltiedig â gwir deimlad ddefnyddio moddion o osodiad Duw. Yr eglwys yw yr offeryn sydd gan Dduw i achub y byd; eto, nid yn ol y moddion a wna hi arfer y gwna lwyddo i wneyd hyny, ond yn ol ei theimladau wrth arfer y moddion—pan glafychodd yr esgorodd. Mae llawer o foddion yn cael eu harferyd yn awr; ond gan nad oes arwyddion achub, rhaid nad oes digon o glafychu. Nid ydym yn disgwyl cynydd a ffrwyth os bydd ia yn gorchuddio y ddaear. Rhaid cael calon ddrylliog; "Crist gwaedlyd," meddai