Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morgan Howells, "heb galon waedlyd, sydd yn brawf nad yw y diweddaf yn ymwneyd â'r cyntaf." Cymdeithaswn fwy â'r Person a fu farw er mwyn achub, ac yna daw yr awydd yn fwy am hyny ynom ninau. Mae Ꭹ limner wrth graffu ar y canvas yn canfod y llinellau, craffwn ninau yn fwy ar Grist er cael gweled ei gariad a'i ras, nes cael profiad o honynt. Mynwch sylweddoli eich undeb â Christ a'ch hawl iddo, ac yna bydd pob addewid o'r cyfamod a hawl genych ynddynt at eich gwasanaeth.

Mae y byd mewn sefyllfa o dywyllwch a dideimladrwydd, heb weled y perygl: yr eglwys sydd wedi ei goleuo sydd i deimlo. A'u cysur yw, y "dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.' Ond disgwyliwn am y clafychu. Pan glafychodd Seion, nid pan gafodd hi gyfoethogion yn aelodau, nid pan gafodd bregethwyr talentog i bregethu, &c.

PREGETH II.

TRALLOD AR BRYDNHAWN.

"Ac wele drallod ar brydnhawn, a chyn y bore ni bydd.”—Esa. xvii. 14.

MAE yn ddiau fod y geiriau yn cyfeirio at y cyfyngder y bu Judah a Jerusalem ynddo, pan ddaeth byddin liosog yr Assyriaid i osod gwarchae yn erbyn y ddinas, a'r waredigaeth ryfedd a gawsant.

Chwi wyddoch fod dau ddosbarth o ddynion yn y byd, y rhai y mae y Beibl yn talu llawer o sylw iddynt, sef yr eglwys a'r byd, neu y duwiol a'r annuwiol, favorites Duw a'i elynion. Pan ystyr-