Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iwn fod pob llywodraeth yn llaw Duw, fel na all yr un gelyn na phrofedigaeth gyfarfod a'i bobl heb ei ganiatad, ai ni buasai. synwyr dyn anianol yn barod i benderfynu ar unwaith, na chawsai. dim annymunol gwrdd a'i bobl Ef byth, na chawsai yr un awel groes chwythu arnynt; ond y byddai rhagluniaeth yn gwenu arnynt. trwy eu holl fywyd, ac y cawsant farw yn y diwedd yn eu nyth? Ond y ffaith gyda golwg ar hyn yw, "Na wyr dyn gariad neu gas wrth yr hyn a wneir dan haul," oblegid yr un peth a ddigwydd i bawb. Ac os oes gwahaniaeth, phiol y duwiol sydd lawnaf o drallodau lawer pryd.

Mae rhyw awydd neillduol mewn llaweroedd o blant y byd hwn am gael gwybod eu tynged (fortune) yn y dyfodol, ac y mae rhyw ddosbarth cythreulig i'w cael a haerant y gallant hwy fynegu hyn,, ond iddynt gael gwybod dydd ac awr genedigaeth pob dyn. Ac y mae rhyw ddosbarth yn credu y rhai hyn. Ond dyma hen lyfr sydd yn darllen ffortiwn i'r dim, yn onest ac yn rhad, ond i chwi wybod beth yw hoff bethau eich bywyd, "Os ydwyf annuwiol,. gwae fi. "Yr hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Ond os ydwyt yn dduwiol,. os wyt yn gwir ddymuno myned i'r nefoedd, dywed dy ffortiwn yn: onest wrthyt tithau, mai "trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn," bod "porth cyfyng" i fyned trwyddo, a "ffordd gul" i'w theithio, ac aml gerydd gan dy Dad nefol, er dy ddysgu i adnabod dy hun, a ffieiddio dy lwybrau, a dyfod i'w adnabod yntau yn well. Ond y mae wedi hyny yn rhoddi “heddychol ffrwyth cyfiawnder," ac yn sicrhau boreu teg, pryd y gellir dweyd am bob trallod, "Ni bydd." Sylwn,

I. FOD TRALLODAU YN RHAN I BOBL DDUW AR Y DDAEAR.—Wrth i ni ddarllen hanes yr eglwys dan yr hen oruchwyliaeth, ni a'i cawn yn fynych yn goddiweddyd trallodau, megis caethiwed y priddfeini, a'r 70 mlynedd yn Babilon. Yr oedd y rhai yna yn drallodau dros brydnhawn. Ond y mae genym hanes am drallodau eraill yn ei chyfarfod ar brydnhawn, rhyw drallod