Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

disymwth, neu brofedigaeth am amser byr. Dyna oedd cyfyngder Môr Coch; pan oeddynt yn meddwl eu bod wedi dianc o law eu gorthrymwr, wele hwy wedi cael eu goddiweddyd ganddo bron yn hollol wedi hyny, pryd nad oedd ganddynt le i ddianc rhagddo, a phryd nad oedd ganddynt arfau i'w wrthsefyll. Nid oedd dim yn ymddangos ond llwyr ddinystr neu ail gaethiwed. Ond medr Duw waredu o bob cyfyngder, ac felly yma, erbyn y bore, cafodd Israel ganu yr ochr draw, a'r gelyn yn yr eigion.

Mae ein testyn yn cyfeirio at siampl hynod arall o drallod ar brydnhawn, sef pan oedd brenin Assyria a'i luoedd wedi dyfod yn erbyn Jerusalem, ac yn herio pob gallu, hyd yn nod yr eiddo eu Duw i'w gwaredu o'i law ef. Nid oedd gallu na chalon gan neb yn Jerusalem i wrthsefyll y fath elyn, oblegid y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond heb rym i esgor." Dyna fel yr oedd y prydnhawn, ond erbyn y boreu, yr oedd grym y fyddin fawr wedi ei lladd, a'r gweddill wedi dianc, a thrigolion Jerusalem wedi colli eu dychryn.

Gallwn weled yr un peth yn hanes y tri llanc a fwriwyd i'r ffwrn dân, ac yn hanes Daniel a fwriwyd i ffau y llewod. Dyna drallod onide ? Ond trodd y ffwrn dân yn gyfleusdra iddynt gael gweled y pedwerydd, a ffau y llewod yn ystafell mil mwy cysurus na phalas y brenin, gwelwyd mai fel yna yr oedd erbyn y boreu. Carwn grybwyll un siampl neillduol arall o drallod ar brydnhawn, sef trallod y disgyblion ar brydnhawn y croeshoeliad, a'r pryd y bu Iesu yn gorwedd yn y bedd. Dyna ystorm ofnadwy, a thywyllwch a ellid ei deimlo i brofiad y disgyblion! Yr oeddynt mewn tristwch; ac nid rhyfedd, wedi colli cyfaill mor hoff, a'u siomi mewn cynifer o ddisgwyliadau; ond erbyn boreu y trydydd dydd "nid oedd."

"Daeth boreu teg a hyfryd
'Nol stormus ddu brydnhawn.”


Mae trallodau a thywyllwch yr oesoedd a aethant heibio wedi eu chwalu, a bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni. Yr achos o drallod y disgyblion nid yw, gan fod yr hwn a fu farw yn