Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyw, a'u tristwch wedi troi yn llawenydd na all neb ei ddwyn oddi arnynt, gan ei fod i fyw yn oesoesoedd.

II. FOD TERFYN LLWYR I FOD I'W HOLL DRALLODAU.—Mae yr hanesion hyn wedi eu cofnodi gan ddwyfol ysbrydoliaeth, er mantais i bobl Dduw ymhob oes. Fel y mae byddin, neu ryw gwmni, wrth fyned i wlad anhygyrch, yn ceisio pioneers i weithio, a dysgu y ffordd iddynt trwy yr anialwch, fel y bu gyda'r fyddin Brydeinig yn ddiweddar yn Abyssinia, yn dyfod o fantais i oesoedd dyfodol wrth fyned yr un ffordd ; felly y mae y ffyrdd a deithiodd eglwys yr Hen Destament, yn fantais fawr i bob credadyn wedi hyny. Profant fod boreu i bob Cristion pan na bydd y trallodau presenol. Enwaf dri math o drallodau fydd yn sicr o ddarfod ar bobl Dduw.

1. Trallod yr argyhoeddiad.—Mae hwn yn cael ei ganlyn â theimlad dwys o euogrwydd ac edifeirwch. Yr wyf yn hyderus fod yma rai sydd yn gwybod am dano yn wirioneddol. Nid yw ond arwydd o dywyllwch fod rhai yn medru byw yn ddidrallod yn eu pechodau. Mae elfenau trallod yn y byw diweddi, ac yn y llawenydd pechadurus. Ond adeg o drallod rhyfedd yw adeg yr argyhoeddiad, tra fyddo llewyrch gobaith heb ei gael. Gwelir hyn yn y newyn gyfarfyddodd yr afradlon yn y wlad bell, pan oedd. ofnau marw wedi ei oddiweddyd. Yr oedd cofio y modd y gadawodd dŷ ei dad, ac y gwariodd ei eiddo bron a'i lethu. Ond goruchwyliaeth trugaredd a greodd duedd yn ei feddwl i droi adref. Ac wele ef yn cychwyn gyda chylla gwag, gwisg garpiog, ac euogrwydd dwys. "Wele drallod ar brydnhawn, ond erbyn y boreu nid oedd." A weli di ef wrth y bwrdd, yn y wisg oreu, ac yn gwledda ar y llo pasgedig, a'i dad yn edrych yn fwy llawen na neb arno?

Felly y mae pechadur pan yn teimlo ei drueni, mae gweled purdeb deddf Duw a chyfiawnder yr orsedd yn ei lethu. Ond enaid, os cei olwg felly arnat dy hun, a chael tuedd i ddychwelyd, gallaf anturio dweyd am dy drallod, "Erbyn y boreu ni bydd.