Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daw i dy feddwl ryw ddarnau o adnodau fel y rhai hyny, "Mi a gyfarfyddaf â thi yno." "Ha fab, cymer gysur, maddeuwyd i ti dy bechodau," nes y byddo "Euogrwydd fel mynyddau'r byd yn troi yn ganu wrth y groes."

2. Iselder crefydd a chaledwch y byd.—Mae yn peri trallod mawr iddynt fod enw Duw yn cael ei gablu, ordinhadau Duw yn cael eu dirmygu, a Seion yn ddiepiledd. Mae gweled caledwch ac anystyriaeth, a'r rhwystrau i'w gorchfygu, yn peri iddynt feddwl na welir effeithiau fel a fu byth mwy gyda'r efengyl. Ond pan ddaw y dylanwad, gwna i'r mynyddoedd doddi fel cwyr o'i flaen. Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch am ddyfod ei hawr," ond wedi geni y plentyn bydd yr oll drosodd. Felly y bydd tristwch

3. Trallodau teuluaidd ac amgylchiadol.—Mae aflwyddiant rhagluniaethol, a dyryswch yn yr amgylchiadau yn cyfarfod weithiau â theulu Duw. Ond aml yw y profion a allem eu dwyn fod Duw yn medru gwaredu o honynt. O! y newyn mawr oedd yn Samaria, ryw brydnhawn, "pan oedd pen asyn er 80 sicl o arian a phedwaredd ran cab o dom colomenod er 5 sicl o arian." Ond erbyn y boreu nid oedd. Mae digon o lawnder yn Samaria boreu dranoeth, a'r farchnad yn is nag y gwelwyd hi nemawr erioed. "Ni fyrhaodd llaw yr Arglwydd fel na allo achub eto, ac ni thrymhaodd ei glust fel na allo glywed." Mae colli perthynasau a chyfeillion, cario corff afiach am dymorau meithion, yn gystal a chyfyngderau eraill yn yr amgylchiadau, yn cael eu cynwys yn y trallodau ar brydnhawn. A mwy na'r cyfan o'r trallodau yw pla y galon. I'r teulu duwiol dros brydnhawn y mae, dros brydnhawn yr erys wylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd. Nid yr un fath yr oedd Jacob yn esbonio Rhagluniaeth pan welodd y cerbydau o'r Aifft, na phan welodd y siaced fraith. Yn yr adgyfodiad, bydd "pob gwahanglwyf wedi myned ymaith,"—pla y galon, corff y farwolaeth, afiechyd a gwaeledd, pob temtasiwn a phrofedigaeth, ni cheir eu gweled byth ond hyny.