Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae rhyw gymeriad arall yn bod, y rhai y gellir troi y testun, wrth feddwl am eu llawenydd, dros brydnhawn y mae, erbyn y bore ni bydd. Felly y mae gyda gwledd Belsassar, yn y prydnhawn mewn hawddfyd a llawenydd, gyda'r mil tywysogion a'r gwragedd, yn yfed gwin o lestri'r deml; ond erbyn y boreu, yr oedd y llawenydd wedi troi yn dristwch tragwyddol. Yr un fath yn nameg y gwr y cnydiodd ei feusydd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, "Y mae genyt dda lawer, wedi eu rhoddi i gadw dros lawer o flynyddoedd," ond cyn y boreu, yr oedd ef a hwythau yn ddigon pell oddiwrth eu gilydd.

Nid trallod i gyd yw rhan y duwiol yn y byd hwn, ac nid llawenydd i gyd yw rhan yr annuwiol, ond cymysg ydyw yma, a'r naill a'r llall yn tynu at ystad o berffeithrwydd. Fel yr oedd y greadigaeth yma ar y cyntaf yn un gymysgfa, y tir a'r dwfr yn un chaos, nes y daeth y dydd i gasglu y dyfroedd i'r un lle, a'r sychdir yntau i ymddangos ; felly y mae y duwiol a'r annuwiol yn gymysgedig yn awr, a graddau o lawenydd yn eiddo y ddau, ond ei fod yn wahanol o ran natur. Ond y mae Ysbryd Duw yn graddol symud yr annrhefn, ac erbyn y boreu ni bydd yr un gronyn o lawenydd yn eiddo yr annuwiol, na gronyn o drallod yn rhan i'r duwiol. A pha faint bynag o drallod gaiff yr annuwiol yn y byd hwn, nid yw ond megis dim at yr hyn sydd yn ei aros "erbyn y boreu."

PREGETH III.

GOGONEDDU DUW TRWY DDWYN FFRWYTH.

"Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, trwy ddwyn o honoch ffrwyth lawer,. a disgyblion fyddwch i mi." ..IOAN XV. 8.

PAN y byddwch yn myned i mewn i'r gwahanol Museums yn y Brifddinas, neu ryw fanau cyffelyb, os bydd genych lygaid i weled,