rydai y Mab yn hyny, fel y dywedodd, "Da genyf wneuthur dy ewyllys, o fy Nuw;" ac O! mor dda ganddo ar derfyn ei daith gael dywedyd, "Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur." Ac ar y groes dywedodd, "Gorphenwyd." Amcan Crist yn ei holl waith ef oedd gogoneddu y Tad; ac amcan yr holl gynllun yw cael pechaduriaid yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ger ei fron Ef mewn cariad."
Fel hyn y mae dyfeisiau yn dyfod i bob cynlluniwr. Wrth weled y train yn rhedeg ar y railway mor gyflym, a'r telegraph yn cludo y newyddion gyda'r fath frys, yr oedd y gwyr a'u cynlluniodd yn cael eu boddhau yn fawr, ac yn cael eu hedmygu hefyd gan eraill. Felly y mae gweled y pechadur yn aros yn Nghrist, ac yn ffrwytho, yn rhoddi boddlonrwydd mawr i'r Tad. A “phan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant," fel y mae yr adeiladaeth fawr, gadarn, wedi ei gorphen yn hardd, yn dyfod yn glod i'r cynllunydd. Os daw y winllan yn ffrwythlon, bydd hyny yn adlewyrchu gogoniant i'r gwinllanydd. Cynllun y Tad yw y cynllun, ac y mae dy weled yn byw yn sanctaidd yn adlewyrchu gogoniant iddo.
2. Profi ein bod yn ddisgyblion i Grist.—Mae y drychfeddwl o unoliaeth ac amrywiaeth mewn eglwys, yr un fath ag y mae mewn adeilad, ac mewn pren, gyda golwg ar y meini a'r canghenau ynddynt. Mae pob cangen unigol yn ffrwytho, ond nid o honi ei hun, mae yma undeb ac amrywiaeth. Pan welir y gangen yn tyfu, yn blodeuo, ac yn ffrwytho, mae hyny yn ddigon o sicrwydd ei bod mewn undeb bywiol â'r pren. Felly am fywyd y dyn duwiol. Ac y mae ffrwyth lawer yn rhoddi mwy o sicrwydd.