Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH IV.

Y MYNYDDOEDD TYWYLL.

"Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch."—JER. XIII. 16.

PAN y mae yn digwydd bod yn ddiwrnod teg, a nodedig o dawel, yn enwedig yn nhymor y gauaf, darogenir fod drycin, a dyddiau ystormus gerllaw; ac felly y mae, yn ol fel y mae sylw a phrofiad yn cadarnhau. Mae y dosbarth hwnw o ddynion, sydd yn chwilio i fewn i ddeddfau natur, yn egluro beth yw yr achos o hyn,—sef fod rhyw elfenau yn yr awyrgylch, sydd yn ei ddal mewn gweithrediad cyffredinol, yn cael eu caethiwo yn amser tawelwch ; a phan dorir y rhwymau, mae y rhai hyny fel yn "rhuthro allan o'r groth," mewn gwynt ystormus, fel pe byddent yn penderfynu adenill y tir a gollasant. Mae deddf debyg yn llywodraeth foesol Duw ; a gwelir hi yn gweithredu yn fynych, mewn canlyniad i lwyddiant tymhorol a manteision crefyddol wedi eu camddefnyddio. Pan y mae dynion yn amlhau pechodau yn ngwyneb daioni a gras Duw, bydd cyfiawnder yn fynych yn gorfod llechu o'r golwg megis mewn caethiwed; ond pan dorir ei rwymau, rhuthra ar y cyfryw mewn ystorm ddinystriol, fel y ceir esiamplau yn hanes yr hen fyd a dinasoedd y gwastadedd.

Mae llawer o'r cyffelyb siamplau i'w cael yn hanes y genedl y cyfeirir ati yn y benod hon. Yr oedd tymhorau llwyddianus iawn wedi myned drosti yn amser Heseciah a Josiah ; ond beth bynag o ddaioni a wnelai yr Arglwydd iddynt, trais ac ysbail oedd yn aros