Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyffredinol Ac os ydym yn deall arwyddion yr amseroedd, maent yn briodol genadwri at ein cenedl a'n teyrnas ni yn y dyddiau hyn.

I. MAE Y TESTYN YN CYNWYS FOD LLYWYDDIAETH DRYGFYD DYNION YN LLAW YR ARGLWYDD.—Nid oes un o bynciau sylfaenol gwir grefydd, sydd yn cael ymosod arno y dyddiau hyn gyda chymaint o haerllugrwydd a nerth, a llywodraeth Duw ar y byd. Mae yn cael ei wadu nid ar weithredoedd yn unig, ond mewn geiriau ac ysgrifeniadau. Y rhai sydd yn syrthio ddyfnaf i'r amryfusedd hwn, yw y rhai a dybiant eu bod wedi dringo ychydig uwchlaw y cyffredin mewn dealltwriaeth o wahanol ddeddfau natur, a phynciau gwybodaeth, ond yn amddifad o ffydd. Mae diffyg ffydd uwchben ail achosion, yn cadw dynion rhag myned at y gwreiddiol achos, ac ar yr un pryd yn eu llanw â balchder. Adeg beryglus i wneyd camsyniadau yw yr adeg rhwng tywyll a goleu. Gwna dynion weled gwrthddrychau, ond ni allant sicrhau beth ydynt; ac mewn adegau felly y mae cyfeiliornadau yn cael eu dechreuad, trwy fod dynion yn cymeryd yr hyfdra i ffurfio barn ar dybiaeth, ac yn ei mynegu fel sicrwydd.

Adeg rhwng y tywyll a'r goleu yw y dyddiau hyn mewn llawer ystyr; a gwelir llawer o rai eofn ac anochelgar yn syrthio i gyfeiliornadau pwysig gyda golwg ar bynciau sylfaenol crefydd. Da fyddai i ni ddal, mewn dyddiau fel hyn, ar dystiolaethau eglur y gwirionedd, hyd nes y gwawrio y dydd, pan na byddo eisiau dweyd wrth neb "Adnebydd yr Arglwydd," gan y bydd pawb yn ei adnabod, ac yn cydnabod ei lywodraeth. Mae yn wir fod "cymylau a thywyllwch o'i amgylch, a bod ei farnedigaethau yn ddyfnder mawr," ond gwyddom mai "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," ac y gellir dweyd "dyn ac anifail a gedwi di Arglwydd. Tân a chenllysg, eira a tharth, y gwynt ystormus a'r dymhestl, sydd yn gwneuthur ei air ef; mae ef yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn gwneuthur llwyddiant ac yn creu drygfyd. Myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll." Llechwch yn dawel