Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn nghysgod ei dystiolaethau am dano ei hun. Cyn iddo, Ef ddwyn tywyllwch.

1. Efe sydd yn dwyn trallodau tymhorol.—Gwna hyn weithiau â phersonau a theuluoedd, trwy anfon afiechyd hir neu glefyd heintus. Gall ddwyn tywyllwch trwy dynu yr amddiffyn oddiar ein synhwyrau, yr hyn fyddai yn dywyllwch mawr. Bobl, a ydym yn gweled gwerth ein synhwyrau ? Mae miloedd yn yr un byd a ni heddyw, fu yn meddu synhwyrau digon cryfion i lywodraethu achosion pwysig perthynol i deulu, cymdeithas, neu wladwriaeth, ond sydd yn awr yn faich ar gymdeithas a theuluoedd, ac yn berygl iddynt eu hunain ac eraill o'u hamgylch. Cofiwn fod y cysylltiadau dirgelaidd, ar ba rai y mae ein synhwyrau ninau oll yn crogi, yn dyner iawn, a phe byddai y rhai hyny yn tori, neu gael eu hanmharu, elem yn wallgofiaid ar unwaith.

Ond yr hyn yr amcanaf alw eich sylw ato yn benaf, yw y trallodion hyny, sydd yn y dyddiau hyn yn dechreu taenu eu cysgodion tywyll dros ein teyrnas yn gyffredinol, neu dros ranau helaeth o honi. Mae rhan o'n trugareddau wedi cael eu nodi â haint er's llawer o flynyddau; ac y mae hyny wedi achlysuro i laweroedd o deuluoedd ffurfio habit o fywiolaethu, sydd yn eu harwain i dlodi a chyfyngder. Ar ol hyny dyna ranau helaeth o'n gwlad wedi cael eu dwyn i drallodau gan haint yr anifeiliaid. Mae miloedd trwy hyn wedi cael eu dwyn o sefyllfa o oleuni a chysur, i sefyllfa o drallod a thywyllwch. Ond yn y pethau a nodwyd, nið yw yr ergydion ond yn cael eu gollwng dros ein penau, heb eu taflu i'r castell. Erbyn hyn, modd bynag, mae wedi dyfod yn nes atom trwy yr haint sydd yn ysgubo ei chanoedd a'i miloedd yn ddisymwth i fyd arall, mewn aml gwm o'r deyrnas. Er hyny, araf iawn, trwy drugaredd, y mae yn amlygu ei anfoddlonrwydd. Nid yw yn dywyll iawn eto, bendigedig fyddo ei enw am hyny. Beth yw y trallod mae wedi ei ddwyn arnom ni at yr hyn a ddygodd ar Juda; pan y gwarchaewyd ar Jerusalem nes treulio nerth y bobl