Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan y newyn, pan y llosgwyd y palasau â thân, pan y cafodd y wlad hyfryd ei throi yn anialwch, a'r trigolion eu caethgludo i wlad ddieithr? Beth yw y trallod y mae wedi ei ddwyn arnom ni at y tywyllwch sydd yn gorchuddio India'r dwyrain y flwyddyn hon (1866). Rhaid i ni gyfaddef nad yw yr adfyd sydd wedi ein goddiweddyd ni, yn deilwng o'i gymharu â'r hyn a welodd llawer cenhedlaeth; ond yr un pryd, y mae y pethau a nodwyd, yn dangos fod yr Arglwydd wedi dyfod allan o'i fangre i ymweled â ni yn ei anfoddlonrwydd.

2. Efe sydd yn dwyn tywyllwch moesol. Cawsom ni ein geni mewn gwlad lle yr oedd goleuni gwerthfawrocach na'r haul yn tywynu. O bob goleuni a gawsom, goleuni yr efengyl yw y gwerthfawrocaf. Mae miloedd o'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angau, trwyddi hi wedi gweled goleuni mawr. Beth feddyliech am golli yr efengyl o'n plith? Nid oes perygl y collir yr efengyl o'r ddaear mwy, hyd nes "rhoddi y deyrnas i fyny i Dduw a'r Tad;" ond gall gael ei chymeryd oddiar un genedl a'i rhoddi i un arall, yr hon a ddygo ffrwyth iddo yn ei amser. Gwnaeth hyny â'r Iuddewon, a gwnaeth hyny âg eglwysi Asia Leiaf. Nid yw dan rwymau i adael yr efengyl i ninau, os byddwn yn ddibris o'i goleuni. Hyn ddaethai a thywyllwch ar ein gwlad! Mae trallodau tymhorol yn dywyllwch blin, ond beth yw hyny at golli yr efengyl o'n gwlad? Mae llygru ein hawyrgylch naturiol gan heintiau afiachus yn ofid mawr, ond llawer mwy fyddai llygru ein hawyrgylch grefyddol gan gyfeiliornadau. Peth difrifol iawn fyddai "newyn am fara a syched am ddwfr," ac heb ddim i'w ddiwallu; ond llawer mwy fyddai "newyn am air yr Arglwydd." Mae wedi anfon newyn felly cyn hyn (Amos viii. 11, 12). Nid ar unwaith y mae yn myned yn dywyll; na, mae cysgodau yr hwyr yn ymestyn cyn y llwyr gilia y goleuni. Nid ar unwaith y mae Duw yn cymeryd yr efengyl o wlad—gadewir yr athrawiaeth i ddwylaw dynion heb ysbryd gweinidogaeth, a muriau Seion i wylwyr diofal am burdeb yr athrawiaeth a'r ddisgyblaeth. Ac â