Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pethau ymlaen felly am amser maith, heb i'r cyfryw bryderu fawr am y dyfodol.

Mae lle i ofni fod canoedd mewn tywyllwch yn swn efengyl yn y dyddiau hyn, sef caledwch calon, yr hyn sydd yn rhagflaenu tywyllwch arall, sef symudiad yr efengyl ymaith. Gwel weledig. aeth y pedwar anifail, Dat. vi. 1—8. Rhoddodd Duw ddynion i "fyny i amryfusedd cadarn fel y credent gelwydd." Cosbi un pechod â phechod arall, "am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig." Maent yn myned i galedwch calon, ac yna yn taro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll." Maent yn cael eu gollwng i ynfydu yn eu rhesymau cnawdol eu hunain. Crist yn ei Berson a'i efengyl yn myned yn "faen tramgwydd iddynt, ac yn graig rhwystr." Un o'r barnau trymaf a all oddiweddyd neb yw caledwch calon yn swn efengyl. Mae arnaf ofn fod gŵr y tŷ wedi digio wrth ddegau o ddynion, oherwydd iddynt ddirmygu ei ymrysoniadau â hwynt y blynyddoedd o'r blaen, a’i fod erbyn hyn wedi dwyn tywyllwch arnynt, a'u bod yn dechreu taro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll, trwy ameu y Bôd o Dduw, gwirionedd crefydd, dwyfoldeb y Beibl, &c. Er cael efengyl, maent heb glust i'w chlywed yn ei hyfryd sain, ac heb lygad i weled ei phrydferthwch, na chalon chwaith i deimlo ei nerth. Ond gobeithiwn nad oes neb o honom yn y caddug ofnadwy hwn.

II. Y DYLAI YSTYRIAETH O HYNY EIN CYFFROI I EDIFEIRWCH PRYDLON A DIDWYLL.— —Gan fod pob llywodraeth yn llaw y Duw yr ydym yn pechu i'w erbyn, mae yn gweddu i ni roddi y gogoniant iddo, trwy edifarhau am ein beiau a dychwelyd ato Ef. Mae ganddo Ef filoedd o ffyrdd i oleuo ar ein llwybrau, a miloedd o ffyrdd i dywyllu arnynt hefyd. Gan ei fod Ef wedi dyfod allan i'n ceryddu, nid gwiw i ni ymgyndynu mewn un modd, gan mai Efe a orchfyga yn y diwedd. "Mae llawer o ddynion duwiol eto yn y wlad," meddai rhywrai. Oes, yn ddiameu. "Onid oes gan yr Arglwydd olwg fawr ar y rhai hyny a gofal mawr am danynt ?" Oes, mae'n wir. Ond dichon mai o achos y rhai hyn y mae yr adfyd