Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn benaf. Nid yw pechodau neb mor annioddefol gan Dduw a phechodau ei bobl; ac y mae yn debyg o arfer moddion chwerw er eu cael oddiwrthynt, fel na'u damnier gyda'r byd, ac er mwyn eu cael at eu dyledswydd. Yr ydych yn cofio hanes y llestr hono, pwy ddydd, oedd yn hwylio o Joppa i Tarsus, yr hon a gyfarfyddodd ag ystorm ofnadwy. "Pa ryfedd ?" meddai rhywrai, "onid crew o ddynion paganaidd oedd ar ei bwrdd ?" Ië, ond nid o achos yr un o honynt y daeth yr ystorm, ond o achos un teithiwr oedd ynddi; ac ni pheidiodd y môr a'i gyffro nes cael Jonah anufudd i'w geudod, am mai efe oedd mewn man ac agwedd na ddylai fod—yn cysgu mewn llong, yn lle bod yn Ninifeh yn traethu cenadwri Duw. O pa gynifer o giefyddwyr sydd mewn agweddau annheilwng, mewn manau na ddylent fod, yn y dyddiau hyn ? Gwelir Seion yn cysgu, a'r byd yn prysuro i ddamnio ei hun. Helyntion masnach ac amgylchiadau yn myned a meddwl yr eglwys yn llwyr, a'r byd yn marw o eisiau gwybodaeth. A welwch chwi y brawd yna sydd yn hollol ymroddedig i'r byd, a'r brawd acw yn y dafarn yn diota? Meddylier am y cydorwedd a'r anlladrwydd sydd yn myned ymlaen ! Pa ryfedd ei fod yn dwyn tywyllwch arnom. Dymunwn am ras i gofio ei lywodraeth, ac edifarhau yn brydlon a gwirioneddol.

Mae digon o Sabeaid a Chaldeaid eto gan Dduw i ruthro arnom, ac ysglyfaethu hyny o feddianau sydd genym; mae ganddo wyntoedd cryfion i fwrw pob adeilad a feddwn i lawr ar eiliad; ac y mae ganddo glefydau a'n rhoddai mewn un dydd mor anniddan a phoenus â Job. Hawdd y gall Efe ddyrysu masnach ar fôr a thir, a throi pob peth yn fethiant; ac, mewn canlyniad, y gweithwyr heb neb i'w cyflogi, &c. Beth a ganlynai ond tywyllwch? Mae wedi tywyllu ychydig yn barod mewn llawer cyfeiriad, trwy yr heintiau, y gwlybaniaeth, a panic yr ariandai. Dywedir y gwna "preswylwyr y byd ddysgu cyfiawnder, pan y byddai ei farnedigaethau ar y ddaear?" onid gwell dysgu cyn iddo Ef ddwyn tywyllwch Yr ydym wedi cael iechyd da, a synhwyrau yn eu lle