Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am flynyddoedd; ond, atolwg, pwy gafodd eu gwasanaeth? Yr ydym wedi cael cynhauafau llawnion, mewn ansawdd dda, am flynyddoedd, a llwyddiant amgylchiadau ; ond, ai nid i droi olwynion llygredigaeth a gwastraff y cafodd y ffrydiau hyn eu cyfeirio?

Onid priodol yw galwad y testyn i gydnabod llaw Duw, ac edifarhau? Yr ydym yn gweled fod perygl os na wnawn. Mae y testyn yn agor drws gobaith, ac yn dangos fod yn bosibl i ni atal y tywyllwch tymhorol a moesol, trwy roddi y gogoniant i Dduw. Rhoddwn ein cyrff yn aberth byw iddo, cysegrwn ein hiechyd a'n synhwyrau i'w wasanaeth, a defnyddiwn lwyddiant amgylchiadau yn ffrydiau i droi olwynion achos Duw ar y ddaear.

Ond y mae tywyllwch anocheladwy o flaen pawb o honom, pryd y diffoddir pob goleuni naturiol, sef cyfyngder marwolaeth. Mae hwnw mor sicr a machludiad haul—"gosodwyd i ddynion farw unwaith." Dichon fod yma aml un a wna ddianc rhag llawer o gyfyngderau tymhorol, ond nid oes yma neb a all ddianc rhag marw. Ar yr un pryd, yr wyf yn ofni fod yma rai heb ei bod yn dda rhyngoch â Duw. Nid oes yma neb, mi feddyliwn, nad yw yn meddwl edifarhau a rhoddi gogoniant i Dduw, cyn y daw y nos, ond hwyrach fod y tywyllwch yn nes nag yr ydych wedi meddwl. O! gymaint o ffolineb yw gadael y pethau mwyaf pwysig i groni hyd yr hwyr. Feallai y bydd haul dy fywyd yn machlud yn nghanol "tymhestl nid bychan yn pwyso arnat," fel y bydd yn rhy dywyll i ganfod un gilfach a glan, na gweled un man i fwrw angor hyder am drugaredd. Bydd yn anhawdd y pryd hwnw gael un meddwl mawr am drugaredd Duw, ac am ei barodrwydd faddeu er mwyn Iesu Grist. Byddi yn taro y traed wrth y mynyddoedd tywyll, wrth gofio y breintiau a gamddefnyddiwyd, ac euogrwydd yn llanw y meddwl o'r herwydd, pan yn gwybod fod cyfiawnder yn ymddangos a thrugaredd yn ymguddio. Ni fydd cymaint a goleuni seren, sef adnod o'r Beibl, i'w chanfod trwy y niwl caddugawl fydd yn toi y glyn. Os äi ymlaen mor bell a hyn heb edifarhau, un o fil, os nad o filiwn, na bydd y tywyllwch, y