Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyryswch, a'r braw, y byddi yn eu teimlo, yn ddechreuad tywyllwch. eithaf y byddi ynddo byth, lle y byddi yn taro dy draed yn ddiderfyn wrth fynyddoedd tywyll euogrwydd ac anobaith, yn wyneb deddf, dan nawdd cyfiawnder dwyfol, fydd yno yn ei ddal.

O enaid gwerthfawr, dyro y gogoniant yn awr i'r hwn sydd yn dy alw yn raslawn i ddychwelyd ato. Mae y testyn yn llawn gras cyn iddo ddwyn tywyllwch." Nid oes dim yn well na bod ar delerau da â'r hwn sydd yn llywodraethu ar bob peth. Bydd yn hyfryd ar y cyfiawn hyd yn nod pan yn marw. Bydd chwerwder marwolaeth wedi myned ymaith. Bydd gweled Iesu yn hwylio i'w gyfarfod, trwy oleuni addewid, yn troi cysgod angau yn foreu ddydd ; ac yn y cyfwng, bydd yntau yn cael entrance i'r goleuni tragwyddol. Rhed i gysgod yr Hwn fu yn y tywyllwch ar Galfaria, yna bydd pob peth yn dda.

PREGETH V.

CRIST Y BUGAIL DA.

Am hyn, y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn."

WRTH ddarllen Dameg y Bugail Da yn ystyriol, yr ydych yn gweled fod gan Grist ei bobl neillduol yn y byd, a bod y cyfryw yn y fath sefyllfa, fel yr oedd yn rhaid iddo fel Bugail wneyd aberth mawr er mwyn eu hiachawdwriaeth. Ond er fod yr aberth mor fawr, yr ydym yn ei gael yn barod i'w wneyd.