Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae yn ein taro wrth ddarllen y Datguddiad Dwyfol ymhob man mai y peth mwyaf sydd wedi cael sylw y Duwdod yw prynedigaeth dyn, neu iachawdwriaeth yr eglwys. Odid fawr nad oes gan bawb o honom ei brif waith, mae hwnw hefyd gan Dduw.

"O holl weithredoedd nef yn un,
Y benaf oll oedd prynu dyn."

Dymunaf alw eich sylw yn

I. AT Y GWAITH MAWR YR YMGYMERODD Y MAB AG EF, sef prynu ei bobl, trwy roddi ei einioes drostynt. Mae yn rhaid fod rhywbeth mawr yn galw am hyny. Mae yn ffaith ddifrifol fod yr holl deulu dynol wedi myned yn gaethion gan ddiafol a phechod, gan ddeddf a chyfiawnder Duw, a than gollfarn driphlyg, "Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw. Yr ydym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint megis eraill." A pha beth bynag a ddywedir yma am y praidd a roddwyd i Grist, nid oes dim gwell i ddweyd am danynt "wrth naturiaeth." Os oedd cadw i fod arnynt, yr oedd yn rhaid i hyny fod yn gyfiawn, yn gystal a thrwy allu; yr oedd yn rhaid iddo fod yn gyson âg anrhydedd y gyfraith oeddynt wedi droseddu, ac â chymeriad y Deddfroddwr. Nid oedd neb a allasai ymgymeryd â'r gwaith hwn, ond yr Un a wnaeth. Yr oedd yn ewyllys ac arfaeth y Tad achub, a dwyn meibion lawer i ogoniant." Ond pwy oedd i'w gwaredu? Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn? Pwy allasai agoryd y ffordd i waredigaeth, a rhyddhau y rhai a "garcharwyd yn gyfiawn"? Pwy allasai "ddinystrio yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo"? Yr oedd gan y Mab ddigon o allu i luchio bydoedd i fod â gair o'i enau; ac er fod ynddo ddigon o awydd gwaredu pechaduriaid, fel yr oedd yn Dduw, ond nid â gair y gallasai wneyd hyny.

Yr oedd yn rhaid i Waredwr pechaduriaid weithio teilyngdod digonol er bod yn alluog i'w gwaredu. Os oedd yn ymgymeryd â'r gwaith o ddileu euogrwydd, yr oedd yn rhaid bod ganddo yr hyn a offrymai. Gan hyny, nid "naturiaeth angylion a gymerodd efe, eithr had Abraham. Gan fod y plant yn gyfranogion o gig a