Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfranog o'r un pethau, fel trwy farwolaeth y dinystriai efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hyny yw diafol." Gan iddo gymeryd ein natur ni i undeb â'i Berson dwyfol, yr oedd mewn sefyllfa i ddweyd fod ganddo "einioes i'w dodi i lawr," dros y rhai oedd yn cael eu caru gan y Tad. Felly, gwelwn nad oedd yr un bôd creadigol yn alluog i gyflawni gwaith mawr prynedigaeth dyn, ac nad oedd Mab Duw ei hun yn abl i'w gyflawni fel yr oedd yn Dduw yn unig, Dim ond undeb y dwyfol â'r dynol allasai wneyd hyn; nis gallasai y Duwdod ddioddef a marw, na dyn roddi mwy o ufudd—dod na throsto ei hun, hyd yn nod pe byddai yn berffaith sanctaidd. Ond dyma wirionedd gogoneddus,—"Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd." "Aberth ac offrwm nis mynaist, eithr corff a gymhwysaist i mi." Dyma un yn meddu ar einioes nad oes neb arall yn meddu ei chyffelyb. Ac nid marw yn unig sydd yn gynwysedig mewn dodi ei einioes i lawr: ond yr oedd ei holl fywyd yn fywyd o aberthiad; yr oedd ei fywyd o'r bru i'r groes yn fywyd o fyned i lawr, nes cyraedd gwaelodion dyffryn darostyngiad. A phan fu farw y cyflawnodd yr act olaf yn y "dodi i lawr," ac y "perffeithiwyd ef trwy ddioddefiadau."

Mae yn rhoddi ei einioes. Mae llawer yn ymgymeryd â gwaith dros eraill, na byddent byth yn ei wneyd, pe byddent yn gwybod y byddai y canlyniadau mor golledus a phoenus. Ond dyma un a wyddai y cwbl o'r dechreuad,—gwyddai am y preseb a'r tlodi, am yr Aifft a Nazareth, am y temtiad a'r erlid, am yr ardd a'r ing, am y gwerthu a'r bradychu, am y goron ddrain a'r fflangellu, am y groes a holl ddyfnderoedd ei ddioddefiadau. Eto, ymgymerodd â'r cyfan yn wirfoddol. A thrwy ddodi ei einioes i lawr felly, mae wedi enill digon o deilyngdod i waredu tyrfa nas gall neb ei rhifo, a'u codi i fod byth ar ei ddelw

II. FOD CRIST TRWY HYN WEDI DYFOD YN WRTHDDRYCH CARIAD NEILLDUOL EI DAD—" Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i."Mae llawer mab hynaf, trwy briodi morwyn dlawd, wedi colli