Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rana yr ysbail gyda'r cedyrn, am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant," &c.

Dangosodd y Tad ei gymeradwyaeth o hono pan oedd yma yn nyddiau ei gnawd. Ar ei enedigaeth, anfonodd angylion i'w addoli, ar ei fedydd canmolodd ef fel ei "Anwyl Fab," ar ei demtiad daeth angylion i weini arno. Ac fel yr oedd yn myned ymlaen gyda'r gwaith, amlhaodd y Tad ei dystiolaethau o'i gymeradwyaeth o hono yn y gweddnewidiad, a phan ddaeth y llef hono o'r nef "Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn." Ac wedi gorphen ei waith a'i ddodi yn y bedd, ni oddefwyd iddo weled llygredigaeth, ond yr oedd yn rhaid i'r nef frysio eto tua'r ddaear foreu y trydydd dydd, er mwyn amlygu cymeradwyaeth i'w holl waith, trwy ei ddyrchafu oddiwrth y meirw.

Nid oedd dim yn y Mab oedd yn boddloni y Tad yn fwy na'i fod yn marw dros bechadur, ac nid oes dim a'i boddlona yn fwy yn awr na gweled pechadur yn credu yn y Mab. Dim ond i chwi gusanu y Mab, caiff eich holl bechodau eu taflu o'r tu ol i'w gefn am byth.

PREGETH VI.

Y MODD Y GWNA DUW A PHECHODAU EI BOBL

"Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: Efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y mor." Micah vii. 19.

WRTH olrhain hanes goruchwyliaeth rhagluniaeth Duw tuag at ei eglwys, mewn gwahanol dymhorau, ni gawn mai cyfnewidiol iawn