Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw yr agwedd oedd arni. Fel y mae yr hinfesurydd yn codi ac yn cwympo yn ol hinsawdd yr awyrgylch, felly yr oedd gyda'r eglwys. Yr oedd pin ysbryd proffwydoliaeth yn disgyn ar raddfa rhagluniaeth, pan oedd drygfyd i ddyfod ar yr eglwys, ac yr oedd y pin yn esgyn pan yn addaw adferiad grasol iddi. Felly y mae yn y llyfr hwn, yn ei ddechreu yr ydym yn gweled fod awyrgylch foesol Israel a Judah wedi myned mor amddifaid o burdeb a gwirionedd, fel y mae barometer y broffwydoliaeth yn bygwth drycin. Ond cyn diwedd y llyfr, ni a'i cawn yn addaw gwell hin. Y Duw graslawn yn ymweled drachefn a'i bobl, nes y maent yn ei ganmol yn y geiriau hyn, "Pa Dduw fel tydi, yn maddeu anwiredd, yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth; ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. Efe a ddychwel, efe a drugarha, efe a ddaroswng ein hanwireddau," &c.

Mae yn deilwng o'n sylw mor wahanol yw dull yr Arglwydd yn dyfod i gosbi i'r hyn ydyw pan yn dyfod i drugarhau, "Wele yr Arglwydd yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled âg anwiredd preswylwyr y ddaear." Mor araf y mae Ezeciel yn dangos y gogoniant yn ymadael â'r deml! "Pa fodd y'th roddaf ymaith, Ephraim, y'th roddaf i fyny, Israel?" Dyma yr olwg a rydd Micah arno,-" Wele yr Arglwydd yn dyfod o'i le," &c. Uwchben y drugareddfa yr oedd ei le ef. Ond pan yn dyfod i drugarhau, mae yn hollol wahanol, "Wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, yn llamu ar y bryniau, &c. Mae yn hoff ganddo drugaredd. Yn llawenychu o'th blegid gan lawenydd." &c. Y darlun goreu o hyn yw y tad yn rhedeg i gyfarfod â'r afradlon.

Mae golwg ogoneddus iawn ar drefn gras o safle y testun. Sylwn ar hyn yn

I. YN EI GYSYLLTIAD A CHYFIAWNDER. "Ti a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y mor." Danghosir yma ddarpariaeth gras ar gyfer beiau pechaduriaid. Rhywbeth ofnadwy iawn yw y pechod a ddaeth i'n byd ni! Hwn ydyw yr achos o'r holl drueni sydd wedi ymledu trwy ranau eang o lywodraeth foesol y Duw