Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mawr. Hwn hyrddiodd angylion o ganol dedwyddwch y nef i afael "cadwynau tragwyddol, dan dywyllwch, i farn y dydd mawr." Hwn daflodd ein rhieni o baradwys, a foddodd yr hen fyd, ac a ddamniodd ddinasoedd y gwastadedd a dymchweliad. Hwn fu yr achos o holl adfyd Israel ar wahanol amserau, ac hefyd o'r holl ddrygfyd a oddiweddai y cenhedloedd a'u gorthryment. Mae lluoedd o ymerodraethau a sefydliadau, yn gystal a myrdd o gymeriadau personol, wedi eu gwneyd yn wreck ganddo. Mae hen ruins pechod i'w gweled ymhob cyfeiriad. Ond os mynwn weled drwghaeddiant pechod, dringwn i Galfaria, i weled cleddyf cyfiawnder yn nghalon yr anwyl Fab.

"Pechod greodd yno'r poenau,
Pechod roddodd arno'r pwn," &c.

Yr oedd gan Israel a Judah doraeth o bechodau; a beth bynag ydych chwi a minau yn ddiffygiol o hono, gellir dweyd ein bod yn gyfoethog o bechodau. Nis gall neb o honom ni, yn fwy nag Israel gynt, ddadleu ein diniweidrwydd. Os dadleuai Israel hyny, gofynai Duw iddynt, "Pa le ni phuteiniaist?" Na, nid oedd eilun y clywsant hwy son am dano, nad oeddynt yn euog o syrthio o'i flaen. Heblaw i ninau fyned i son am y camwedd cyntaf, a'r anwiredd y lluniwyd ni ynddo, beth am liosogrwydd ein pechodau ninau o'r bru hyd heddyw? A thra byddo y person yn aros dan y condemniad, gwobr pob trosedd o flaen gorsedd cyfiawnder yw marwolaeth dragwyddol. Ac nis gall ein holl rinweddau haeddu maddeuant, ond gellir dweyd am danynt oll fel am Agar a'i phlant, pa faint bynag a genhedlai, i gaethiwed y byddai yn eu cenhedlu. Wrth i ni droi ein golwg yn ol, gwelwn dyrau mawrion uchel yn gorwedd ar wyneb holl flynyddoedd ein hoes; pentwr mawr o eiriau halogedig; pentwr mawr o weithredoedd gwaharddedig; cruglwyth anferth o feddyliau ofer; a'r holl dyrau hyn yn cyrhaeddyd megis hyd y nef, ac yn llanw awyrgylch foesol y byd a'u sawyr lygredig, a phob pechod unigol ynddynt yn meddu ar nerth "damniol floeddiad."


r