Y cwestiwn bellach yw, Beth ddaw o'r holl bechodau hyn? a ddichon neb eu cuddio trwy ryw ddyfais, neu eu dileu, a thrwy hyny osgoi y gosb? Na, gwnaeth Cain ei oreu i guddio llofruddiaeth ei frawd; gwnaeth Achan ymdrech i guddio y diofryd-beth yn llawr ei babell; a gwnaeth Dafydd yr un peth gyda'i bechod yn erbyn Urias. Ond yr oedd gwaed Abel yn adsain i'r nefoedd, gwnaeth cyfiawnder i'r goelbren ddal Achan, a daeth pechod Dafydd i lygad goleuni i bawb gael ei weled. Mae miloedd o bechodau yn cael eu cyflawni bob dydd mewn dirgel-leɔedd, a miliynau yn cael eu claddu mewn anghof gyda ni yn barhaus; ond y maent i gyd wedi cael eu cofnodi yn office cyfiawnder, ac yn llefain, "Pa hyd y byddi heb ddial?" A dyma ni ymhlith y rhai ag y mae score fawr yn eu herbyn am feiau. Beth a wnawn, tybed? Mae yn rhaid cael rhyw eangder o le i guddio y fath liosogrwydd o feiau, os cuddir hwy byth.
Ond fe fedr Duw gyfarfod â ni yn ein trueni, yn ein dyled a'n heuogrwydd, gyda maddeuant. Mae ganddo drefn i faddeu yn llwyr ac am byth. Un o'r trugareddau mwyaf y mae yn bosibl i bechadur ei gael byth yw, cael ei ryddhau oddiwrth ddrwg-haeddiant ei bechod. A dyma drefn, bobl, sydd yn werth i chwi sefyll uwch ei phen i'w hastudio a'i rhyfeddu. Ceir golwg braf arni oddiar safle hen adnod y Salmydd, "Cyn belled ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddiwrthym." Cewch olygfa ardderchog arni gyda Hezeciah, o binacl yr adnod hono, "Canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ol i'th gefn." A hèr i neb ddyfod o hyd i'r fan hono byth, "Yn y dyddiau hyny, a'r amser hwnw, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechod Judah, ac nis ceir hwynt, canys mi a faddeuaf i'r rhai a weddilliwyf. Myfi, myfi yw yr hwn a ddileaf dy gamweddau, er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau."
Ond yma dangosir digonolrwydd trefn maddeuant drwy y gymhariaeth rymus hon, "Ti a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y mor." Lle rhyfedd yw dyfnder y môr! Mae dyfnderoedd y môr