Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

naturiol yn beth nad yw neb eto, gyda sicrwydd penderfynol, wedi cael allan faint ydyw. Dywedir fod Syr] James Ross wedi ei gael mewn lle rhyw 900 milldir o St. Helena, yn 6 milldir. A dywedir fod y manau dyfnaf arno yn hollol farwol i bob bywyd, a'i fod yn hollol dawel a diderfysg bob amser. Ac os nad oes yno derfysg yn bod, gobaith gwan sydd y dygir yr hyn a deflir yno byth i'r golwg. Ond y mae môr y testyn yn annhraethol ddyfnach. Mae môr yr lawn mor ddwfn fel na all yr un Ross na neb arall ei blymio byth; ac nis gall yr un cythraul derfysgu ei waelod, i roddi nerth condemniad yn yr un o'r pechodau a deflir yno. O! Y fath doraeth y mae y môr naturiol wedi ei gymeryd i'w geudod—y miloedd llongau mawrion a bychain, a miliynau o wrthddrychau eraill; ac y mae wedi derbyn yr afonydd, gyda'u holl fudreddi, trwy yr oesoedd, ac ymddengys nad ydynt wedi llenwi dim arno, nac effeithio dim er ei lygru. Ond nid yw wedi y cwbl ond cysgod o for yr Iawn, lle y mae y Duw mawr yn taflu pethau y methodd pobpeth arall eu cuddio. Dyma ddigon o fôr i guddio pechodau a chwyddodd mor uchel a gorsedd yr Ior ei hun. Yma y taflwyd euogrwydd Adda, y patriarchiaid, a'r proffwydi, a'u cydoeswyr duwiol. Yma y taflwyd pechodau Israel a Judah wrthnysig trwy yr oesoedd. Yma y taflwyd anwiredd Manasseh, Zaccheus y publican, Mair Magdalen, y lleidr ar y groes, Saul o Tarsus, a phechodau y miloedd a achubwyd ar ddydd y Pentecost.

Mae trugaredd wedi dal i daflu beiau i'r môr hwn drwy yr oesoedd, ac felly gwna eto; taflodd bechodau miloedd o Gymry yr oes hon, ac y mae wrth y gwaith o hyd, er hyny nid yw haeddiant yr lawn ddim yn llai, na'i rinwedd wedi colli dim o'i effeithiau. Nid ydym yn deall fod y môr yn teimlo dim wrth gymeryd y Great Eastern yn fwy na'r canoe bach; felly nid yw trefn maddeuant yn dioddef dim wrth faddeu y pum' cant yn fwy na'r deg a deugain. Er fod genym ryw bentwr rhyfedd o bechodau, a baich anferth o euogrwydd, eto, wrth y rhai sydd yn teimlo y baich dywedaf, Peidiwch anobeithio, nid ydynt ddim i fôr yr iawn; pa