faint bynag yw dy awydd di bechadur i gael maddeuant, mae Duw yn anfeidrol barotach i'w roddi; a pha faint bynag o bleser wyt yn gael wrth gredu dy fod wedi ei gael, mae Duw wedi cael anfeidrol mwy wrth daflu dy bechodau i ddyfnderoedd y môr. Mae yn canu wrth wneyd hyn, ac fe elli dithau ganu.
Collwyd megis môr o waed dan yr hen oruchwyliaeth, ond yr oedd pechod yn y golwg o hyd. Yr oedd cydwybod pechod gan y rhai a addolent o hyd.
"Ond gwaed yr Oen fu ar Galfaria
Haeddiant Iesu a'i farwol glwy'
Yw y mor lle caiff ei guddio
Fel na welir m'ono mwy."
Pan ddaw Satan ymlaen i ddanod y beiau, dangos dithau y môr iddo. Fel y boddodd Duw fyddin Pharaoh yn y Môr Coch heb adael yr un o honynt, felly y gwna â phechodau pawb y mae yn gyfiawnhau, fel na welir hwynt byth ond hyny. Ni fedr yr un gelyn dreiddio byth i'r man y mae Duw wedi eu cuddio. Clywodd y Parch. Joseph Thomas am un oedd wedi gweled llawer o dywydd garw, yn dweyd ei brofiad wrth ei wraig, "Mi fum," meddai, "yn yr ysbyty, ac yn yr asylum, ac nid yw yn annhebyg na allaf fyned eto ar yr union; ond dywedaf i chwi un peth yn rhagor, ni chaf byth fyned i uffern, mae fy holl bechodau wedi eu taflu i ddyfnderoedd y môr."
II. YN EI GYSYLLTIAD A SANCTEIDDHAD.—Mae hyn yn cael ei gynwys yn yr addewid, "Efe a ddarostwng ein hanwireddau." III. FFYNHONELL YR HOLL FENDITHION——"Efe a drugarha."
[Ni wyddom a oedd gan Mr. Edwards bregeth arall ar y geiriau, os oedd, nid yw i'w chael.—GOL.]