Mr. Jones; ac felly ni chafodd Sir Gaernarfon ond Mr. Evan Richardson yn unig yn yr Ordeiniad cyntaf―at Mr. Lloyd, Caernarfon, yr hwn oedd yn un o'r tri Offeiriaid a berthynent i'r Cyfundeb yn y Gogledd. Bu Mr. Robert Jones byw wedi y neillduad hwnw yn agos i ddeunaw mlynedd, ac wedi hyny yr ysgrifenodd y llyfr gwerthfawr, "Drych yr Amseroedd," i'r hwn yr ydym mor ddyledus am Hanes Dechreuad a Chynnydd y Cyfundeb Methodistaidd yn ein gwlad. Ysgrifenodd amryw lyfrau buddiol ereill, y cwbl yn dwyn delw neillduol ei feddwl: ac y mae yn resyn dirfawr na buasai ei holl ysgrifeniadau, cyn hyn, wedi eu casglu yn nghyd, a'u cyhoeddi yn un gyfrol ddestlus, gydag amryw lythyrau iddo sydd ar gael, rhai yn argraffedig ac amryw eto heb eu cyhoeddi erioed. Y mae y fath ŵr yn teilyngu y cyfryw goffadwriaeth. Bendith fawr i Sir Gaernarfon oedd ei gael cyhyd. Ac er ei fod er ys rhai blynyddoedd cyn ei ymadawiad, gan henaint a llesgedd, yn methu teithio ond ychydig, ac felly wedi myned yn dra dieithr mewn rhai parthau o'r Sir, eto yr oedd rhyw chwithdod cyffredinol pan y clywyd am ei farwolaeth, wrth feddwl fod y ddolen ddiweddaf, braidd, oedd yn cysylltu y Methodistiaid cyntaf a Methodistiaid hynaf yr oes bresennol, wedi ei thori. Bu farw Ebrill 18, 1829, yn 84 mlwydd oed. [1]
Yr oedd Mr. Evan Richardson o Gaernarfon yn fyw, ond wedi methu yn hollol a dilyn y Cyfarfodydd Misol, pan y daeth John Jones i Dalysarn, ac felly ni a awn heibio iddo ef yma. Daw ei gymeriad ef fel pregethwr dan ein sylw eto.
Yn nesaf at Mr. Robert Jones, ac, ar yr adeg y cyfeiriwn ati, yn cymmeryd y flaenoriaeth yn hytrach nag ef, yr oedd Mr. Michael Roberts, Pwllheli. Efe oedd y galluocaf o lawer o bawb o fewn y y Cyfarfod Misol, ac mewn rhyw bethau nid oedd odid neb yn y Cyfun-
- ↑ Wedi ysgrifenu ac argraffu y sylwadau uchod, ni a dderbyniasom y crybwylliadau canlynol am yr hen batriarch o Roslan, oddiwrth ei fab ieuengaf, yr unig un sydd yn awr yn fyw, ac yntau ar fin pedwar ugain mlwydd oed, Mr. Samuel Jones, Liverpool:—"Ganed Robert Jones ar y 13 o Ionawr, 1745, yn y Suntur, plwyf Llanystymdwy. Bu farw ar y 18 dydd o Ebrill, 1829, yn Nhy Capel, Dinas, ar ol cystudd o chwe' diwrnod. Claddwyd ei gorph yn Mynwent Llaniestyn, ar yr 21 o Ebrill, 1829. Ar yr 20fed (Nos Lun), Pregethodd y Parch. Robert Owen, yn Nghapel Dinas, odiar loan xi. 24; a'r Pa ch. James Hughes, Crindir, ar ei ol-oddiar Numeri xxiii., a'r rhan olaf o'r 10fed adnod. Ar foreu Mawrth (dydd y Claddedigaeth), pregethodd y Parch. Richard Loyd, Beaumaris oddiar Luc ii. 29. O flaen codi y Corph, cyfarchwyd y gynulleidfa yn dra effeithiol gan y Parch. Michael Roberts. Canwyd penillion ar hyd y ffordd, o dy y Capel i'r fynwent; a chanwyd drachefn wrth y bedd."