deb, nac yn Nghymru, i'w gystadlu âg ef. Yr oedd efe, fel y mae yn hysbys, yn fab i'r diweddar Barch. John Roberts, Llangwm—Llanllyfni gynt—ac yn nai i'r pregethwr seraphaidd, Robert Roberts o Glynog. Yr oedd wedi ei fagu gyda chrefydd; wedi cynnefino, er yn blentyn, â phregethau ac â phregethwyr; wedi dechreu pregethu ei hunan cyn bod yn llawn ddwy flwydd-ar-bymtheg oed; wedi teithio llawer gyda'i ewythr yn y Gogledd ac yn y Deheu; ac ar hyd ei oes, er pob anfantais o ran iechyd ac amgylchiadau, wedi bod yn ngwir ystyr y gair yn efrydydd caled. Pan yn cadw ysgol am flynyddoedd lawer cyn ac wedi priodi, a thrachefn am flynyddoedd yn nghanol holl drafferth a helbul masnach, a'r gofal oedd arno i ddwyn i fynu deulu lliosog, yr oedd yn mynu amser i ddiwyllio ei feddwl; i ddarllen y llyfrau goreu hen a diweddar; i barotoi pregethau newyddion; ac i ymroddi yn ddiwyd ac yn gyson i wasanaethu yr achos mawr yn y dref y preswyliai ynddi, ac yn y Sir yn gyffredinol. Yr ydoedd yn pregethu trwy'r blynyddoedd yn Mhwllheli bob nos Iau, oddieithr y byddai gŵr dieithr ar daith yn dygwydd bod yno y noswaith hono neu ryw noson arall yn yr wythnos; ac ni byddai byth yn y pwlpud heb fod y bregeth yn barod ganddo, a hono bob amser yn un âg ôl meddwl manwl arni,—yn neillduol ôl myfyrdod dwys ar ystyr y testyn. Cawn eto gyfeirio yn helaethach ato fel pregethwr, oblegyd yr ydoedd yn ddiddadl yn un o bregethwyr hynotaf ei oes.
Yr ydoedd, er pan yn lled ieuanc, yn cael ei flino gan ddiffyg anadl, yn gymmaint felly fel y byddai yn fynych am nosweithiau yn methu myned i'w wely; ac, weithiau, ar ol myned i gryn bellder oddicartref at ei gyhoeddiad Sabbothol, megis i Gaernarfon neu Fangor, yn methu, yn y diwedd, a myned o'i letty i'r Capel i bregethu. Tua dechreu y flwyddyn 1832, fe ddechreuodd ei afiechyd newid ei ffurf, trwy godi i'w ben, ac ymddangos ar amserau fel yn effeithio ar ei synwyrau. Yr oedd, pa fodd bynnag, yn parhau i bregethu, ac ni welid byth un coll arno yn y pulpud. Bu, yn y cyfamser, mewn amrywiol Gymmanfaoedd, ac ar ymweliadau â Llundain, Liverpool, a lleoedd ereill. Yr oedd ei gyfeillion yn teimlo pryder mawr yn ei gylch—Mr. Elias yn neillduol—ac yn ofni mai gwaethygu a wnai; ac yr oedd rhai o honynt yn dra awyddus i'w roddi, ar unwaith, dan ofal rhyw feddyg cyfaddas at y fath anhwyl. Yr oedd yn hytrach yn well yn niwedd 1833, a dechreu 1834, a gobeithid ei fod ar droi i wellhau