cyffredin yr eglwysi, nid yn unig yn ei Sir ei hun ond mewn Siroedd ereill hefyd. Ac yr oedd nid yn unig yn eu hadnabod hwy ond yn eu hadnabod yn eu hamrywiol gysylltiadau teuluaidd—eu rhïeni, eu brodyr a'u chwiorydd, a'u symmudiadau o fan i fan. Y Bibl, pan oeddem ni yno, oedd yr unig lyfr braidd a ddarllenid ganddo, ac yr oedd gyda hwnw yn wastad. Ni chyfarfuasom ni â neb erioed yn ymddangos mor gyfarwydd âg ef yn yr ysgrythyrau. Gallesid meddwl nad oedd odid adnod yn y Bibl nad oedd efe wedi bod uwch ei phen yn ofalus, yn chwilio i mewn i'w hystyr. Yr ydoedd, mewn blynyddoedd a aethent heibio, wedi darllen llawer iawn hefyd ar lyfrau ereill, ac yr oedd ei ddeall mor gyflym, a'i gôf mor gryf, fel ag yr oedd ystyr a chynnwysiad pa beth bynnag a ddarllenai yn aros yn eiddo iddo. Pan yn ieuanc iawn, trwy gyfarwyddyd Mr. Elias, fe ddarllenodd ac fe astudiodd yn ofalus a manwl Brown's Compendious View of Natural and Revealed Religion, yr hyn a roddodd iddo gydnabyddiaeth gywir âg Elfenau Duwinyddiaeth, ac a'i gwnaeth yn gwbl barod, ar hyd ei oes, i siarad yn hollol ddirybudd ar unrhyw gangen a berthynai iddi. Mewn blynyddoedd diweddarach fe ddarllenodd Calvin's Institutes, a phrif Draethodau Dr. Owen a Jonathan Edwards, ac yr oedd yn gwbl gyfarwydd ag ysgrifeniadau Dr. Williams, Dr. Dwight, a Mr. Andrew Fuller. Yr oedd yn neillduol wedi astudio Hanesyddiaeth Eglwysig, ac yr oedd Mosheim's Ecclesiastical History, & Milner's Church History, fel megis ar flaenau ei fysedd. Nid oedd wedi ymwthio mor bell i wybodaeth gyffredinol a Mr. Elias; ond yr ydym yn tueddu yn gryf i dybied ei fod yn llawer mwy manwl hyd yn nod nag ef, yn y cylch neillduol a gymmerasid ganddo iddo ei hunan, ac y mae yn amheus genym a oedd cymmaint ag un o'r hen bregethwyr, yn y manylder hwnw, i'w gymharu âg ef.
Wedi i Mr. Robert Jones heneiddio, a chyn ei afiechyd yntau, yr oedd y flaenoriaeth yn y Cyfarfod Misol yn cael ei rhanu rhyngddo ef a Mr. John Jones, Tremadoc. Efe, fel y pregethwr hynaf a galluocaf, er fod Mr. John Jones yn hynach o ran dyddiau, oedd yn hytrach yn cael y lle blaenaf. Yr oedd yn ymdrechu, hyd y gallai, am fod bob amser yn bresennol, a theimlid yn chwith iawn yn y cymmydogaethau y byddai y Cyfarfod, os na byddai efe ynddo, gan fod y fath syched ar bawb yn mhob man am ei wrando yn pregethu. Yn ol yr hyn a glywsom, ac yn ol yr hyn, dybygid, oedd braidd yn naturiol i'w feddwl, yr