mawr yn nghymdeithas eu gilydd. Y mae yn dywedyd hefyd i Mr. Davies ac yntau, yn fuan wedi eu dyfodiad i'r wlad, gymmeryd taith i Sir Fôn; ac i Mr. Davies bregethu y Sabbath yn Nghaergybi, ac yntau yn Amlwch; a'r naill a'r llall, meddai, "yn Nghapeli y Calviniaid, y rhai a fenthycid yn rhwydd" iddynt. Pregethodd Mr. Hughes gyda hyny yn Llangefni a Beaumaris; a Mr. Davies yn Nghaernarfon; ac ni a dybiem mai yn Nghapeli yr un bobl y pregethent yn y lleoedd hyny. Ni a wyddom iddynt gael benthyg capel y Methodistiaid yn y Bala, am amryw Sabbathau yn olynol, i gynnal gwasanaeth ac i geisio codi achos yn y dref yn ol eu trefn eu hunain. Ond fel y sylwa Mr. Hughes, wrth gyfeirio at gyfeillgarwch cyntaf Mr. Thomas Jones, "nid oedd hyn i fod ond o fyr barhad." Ac y mae yn ymddangos i ni, ac edrych ar y peth oddiar safle Fethodistaidd, gan ganiatau y gallai fod, a bod yn sicr fod, cryn lawer o eiddigedd enwadol, eto, fod achlysur y gwahaniaeth teimlad a gymmerodd le yn bur fuan tuag atynt, mewn gwirionedd i'w briodoli i'r wedd neillduol a roddid ganddynt hwy ar eu hathrawiaeth eu hunain, a'r camddarluniadau dychrynllyd, yn ol fel y tybiai y Methodistiaid a'r enwadau Calvinaidd ereill, a wneid ganddynt ar eu golygiadau hwy. Y mae yn sicr eu bod yn eu pregethau yn gosod arbenigrwydd mawr ar y Cyffredinolrwydd, y dadleuent hwy drosto, sydd yn y Prynedigaeth trwy Grist Iesu; gan haeru, os nad yw Iesu Grist wedi marw dros bob dyn, yn yr un ystyr a'u gilydd, nas gall fod iachawdwriaeth i bob dyn, ac felly nas gall galwad yr efengyl ar bob dyn fod ond twyllodrus ac anonest; galw y newynog at y wledd, ac erbyn iddo ddyfod, heb ddim yno ar ei gyfer ef. Yr oeddent, yn enwedig, yn pregethu yn erbyn y syniad Calvinaidd am Etholedigaeth; gan ei gosod allan yr un peth a Gwrthodedigaeth ddiammodol, a haeru fod y Calviniaid yn dysgu fod rhyw nifer bychan wedi eu hethol i'w cadw, a'r gweddill mawr wedi eu hethol i'w damnio, yn gwbl annibynol ar eu cymeriadau a'u bucheddau;—y cedwid y naill pechent a fynent, ac na chedwid y lleill pa ymdrech bynnag a wnelent. Camddarlunient hefyd yn ddychrynllyd y syniad Calvinaidd am gyflwr dyn wrth natur; gan gyhoeddi fod rhai o'r Methodistiaid yn pregethu fod "penau plant bychain yn palmantu uffern." Cyhoeddwyd hyny, drwy y Wasg, am y diweddar Barch. John Jones, Treffynnon. Dygwyddodd i'r hen bregethwr ddyfod i'r dref, lle yr oedd y Gweinidog a gyhoeddasai hyny, ar y pryd, yn cartrefu. Ac
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/289
Gwedd