fel yr ydoedd yn un lled barod yn y pulpud i gymmeryd pa gyfeiriad bynnag a gynnygiai ei hunan i'w feddwl, ac yn awyddus hefyd i ddefnyddio cyfleusdra mor fanteisiol i roddi dyrnod i'r un a gyhoeddasai y fath gabldraeth arno, wrth sôn am hoffder yr Arglwydd Iesu o weled plant bychain yn cael eu dwyn ato, dywedodd,—"Y mae yma ryw greadur, yn eich tref chwi, wedi cyhoeddi ar led y byd, fy mod i wedi dywedyd fod penau plant bach yn palmantu uffern.' Celwydd ofnadwy. Ni ddywedais i erioed y fath beth. Ni feddyliodd fy nghalon i erioed y fath beth. Ni ddarfu i mi erioed o'r blaen ddeall na chlywed fod palmant ar uffern. Pwll diwaelod' y mae fy Mibl i yn ei galw. A phe buasai gwaelod iddi ac eisiau ei phalmantu, y mae yn debycach gen i o lawer, mai nid 'penau y plant bach' anwyl, diniwed, a gymerasid i'w phalmantu, ond rhyw hen benau gleision, celyd, fel ei ben o, wedi bod yn curo ar hyd ei oes yn erbyn Etholedigaeth gras." Fe fuasai yn hollol dêg i'r cyfeillion Arminaidd ymresymu, a dadleu, a cheisio profi, fod yr hyn a honid ganddynt hwy yn ganlyniadau naturiol i, neu yn gasgliadau priodol a chyfreithlawn oddiwrth, y syniadau Calvinaidd am Etholedigaeth, neu y Pechod Gwreiddiol, neu ryw bwnc arall; ond yr oedd yn gwbl anoddefol i holl deimladau moesol gwyr nodedig o gymmedrol fel Mr. Charles o'r Bala, Mr. Jones, Dinbych, Mr. John Jones, Edeyrn, Mr. Ebenezer Morris, Mr. George Lewis, Llanuwchllyn, Mr. Benjamin Jones, Pwllheli, Mr. John Roberts, Llanbrynmair, ac amryw ereill, heb son am rai mwy tanbaid eu tymherau, megis Mr. John Elias a Mr. Christmas Evans, a'u cyffelyb, glywed fod y fath olygiadau gŵyrgam ag a gymmerid gan ryw rai ar eu hathrawiaeth, neu y fath gasgliadau gwrthun ac afresymol ac anysgrythyrol ag a dynid ganddynt oddiwrthi, yn cael eu gosod allan, yn y fath ddull haerllug at oraclaidd fel hanfod yr athrawiaeth hono ei hunan, ac fel yr hyn a ddysgid yn groew ganddynt hwy i'w cynnulleidfaoedd. Yr oedd hyny yn neillduol yn anoddefol iddynt oddiwrth wyr ieuainc dibrofiad, heb gael ond ychydig amser, a chan mwyaf heb feddu ar ond ychydig allu, i ymgydnabyddu â'r Dadguddiad Dwyfol, ac â golygiadau yr Eglwys Gristionogol, mewn gwahanol wledydd ac mewn gwahanol oesoedd, o'r dechreuad, ar y gwirioneddau mawrion a ddysgir ynddo. Mae yn ddrwg genym fod Mr. Wesley ei hunan wedi eu rhagflaenu yn y cyfeiriad hwn; a bod rhai o'r mân-lyfrau a gyhoeddwyd tan ei nawdd a than ei enw ef (er nad oedd efe ei hunan yn awdwr union-
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/290
Gwedd