yr hwn, meddwch, na chafodd y gwrthodedig erioed (Cyfieithiad Jones, tu dal. 12; cyfieithiad Hughes, tu dal. 22, 23). Hyny ydyw,—pe byddem ni yn myned i osod ein casgliadau ein hunain i lawr fel ei gredo ef—y mae Duw yn gyfiawn, wrth roi i fynu i ddinystr a gwrthodedigaeth dragywyddol, y dyn nad yw yn defnyddio y gras cyffredinol a roddwyd i'r ddynoliaeth yn ddieithriad trwy y drefn gyfryngol-gras nad yw, yn y diwedd, yn gwneuthur nemawr fwy, os dim mwy yn dufewnol i'r dyn, na'r hyn a dybir mewn Calviniaeth sydd yn eiddo naturiol iddo fel creadur, ac na chollwyd mo hono trwy bechod—ond buasai yn annghyfiawnder ynddo adael y ddynoliaeth yn ei thrueni dan y cwymp trwy yr Adda cyntaf, heb drefnu iachawdwriaeth ar ei chyfer. Yn mha le, gan hyny, y mae gras y trefniad hwnw?
Y mae yn ddiammheuol fod cyhoeddiad y fath draethawd wedi peri cyffro mawr yn mhlith yr enwadau Calvinaidd yn gyffredinol: eithr nid ydym yn gwybod ond am un llyfr a ddygwyd allan yn atebiad uniongyrchol iddo. Y llyfr hwnw oedd, " Ffynhonnau Iachawdwriaeth, neu amddiffyniad o Athrawiaethau Gras: sef, Byrr Attebiad i lyfr, a elwir Traethawd ar Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth; ac Helaethder y Prynedigaeth Cristnogol. Gan B. Jones, Gweinidog yr Efengyl. Pris Swllt mewn Papur Glâs. Caernarfon: Argraphwyd gan T. Roberts." Y B. Jones hwn oedd, y Parch. Benjamin Jones, Gweinidog yr Annibynwyr yn Mhwllheli. Brodor oedd efe o blwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, lle y ganwyd ef, Medi 29, 1756. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus, ac yn aelodau o'r Eglwys Sefydledig; ac wedi bwriadu iddo yntau fod yn Weinidog yn yr eglwys hono, ac wedi dechreu rhoddi addysg iddo gyda golwg ar hyny. Ond fe'i tueddwyd ryw fodd i fyned i'r addoldy ymneillduol oedd yn Henllan; ac o dan y weinidogaeth yno, fe ddaeth i ymdeimlo â'i achos fel pechadur colledig, ac i olwg trefn yr efengyl am fywyd ac iachawdwriaeth, a phenderfynodd ymuno â'r eglwys yn y lle, a gwneyd ei gartref gyda'r ymneillduwyr. Pan oedd tua deunaw mlwydd oed fe ddechreuodd bregethu; ac wedi ychydig barotöad fe aeth i'r Athrofa, a gedwid y pryd hyny yn Abergavenni; lle yr arhosodd bedair blynedd, ac y gwnaeth fwy o gynnydd nag odid un o'i gyd-efrydwyr mewn dysgeidiaeth gyffredin a chysegredig. Wedi ychydig brawf arno, fe gafodd alwad gan yr eglwys yn Mhencader, Sir Gaerfyrddin, i fod yn Weinidog iddi. Cydsyniodd â'r alwad hono: ac fe'i neillduwyd yno i'r gwaith