mawr, Mai 25, 1779. Priododd y flwyddyn ganlynol. Yn mhen dwy flynedd drachefn, yn 1782, fe dderbyniodd alwad i fyned i Bethlehem a Rhos-y-meirch, yn Sir Fôn; lle y bu yn llafurio yn ffyddlawn, a llwyddiannus, a chysurus iddo ei hunan ac i'r eglwysi y gweinidogaethai ynddynt, am tua saith mlynedd. Yn niwedd y flwyddyn 1789, fe symmudodd i Bwllheli, i gymmeryd gofal yr eglwys yno; lle yr arhosodd am y gweddill o'i oes, gan lafurio gyda chymmeradwyaeth mawr, hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le, wedi cystudd byr, Chwefror 17, 1823, pan ydoedd yn 66 mlwydd oed, Yr oedd Mr. Michael Roberts ac yntau yn gyfeillion annghyffredin. Pregethodd Mr. Roberts bregeth angladdol iddo, i dyrfa fawr, yn Nghapel y Methodistiaid, ar y nos Iau, Chwefror 27, oddiar Daniel xii. 13. Clywsom ef yn fynych yn sôn am dano gyda pharchedigaeth neillduol. Dywedai na chyfarfuasai e ond yn dra anfynych âg un ag yr oedd ei galon wedi ymgylymu yn llwyrach â'r holl efengyl, mwy diysgog yn ei holl wirioneddau, na mwy galluog i'w hamddiffyn. Rhagorai yn arbenig yn ei allu i Ddeongli yr Ysgrythyrau. Yn mhen rhyw dair neu bedair blynedd, wedi symmud i Bwllheli, fe gyhoeddodd draethawd galluog iawn, a elwir, "Athrawiaeth y Drindod mewn Tair Pregeth: I. Ar Berson Crist yr Immanuel. II. Ar Bersonoliaeth a Duwdod yr Yspryd Glan. III. Ar Wahaniaethol Bersonoliaeth y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan: Ynghyd âg Attebiad i rai Gwrthddadleuon. O gasgliad B. Jones. Machynlleth: Argraphwyd gan T. Evans, 1793." Y mae yn amlwg ei fod, yn y traethawd hwn, a'i lygaid yn uniongyrchol ar rai pethau yn Sylwadau y Parch. Peter Williams ar y Bibl; ac, yn enwedig, ar y Syniadau a ddysgid gan yr un gwr yn y llyfr a gyhoeddasai y flwyddyn flaenorol:—." Dirgelwch Duwioldeb neu Athrawiaeth y Drindod; wedi ei datguddio mewn dull eglur a chynnefin, i'r Diben o wneuthur Egwyddorion Crefydd Crist yn hyfryd, ac yn flasus, i bob Enaid duwiol, yn ddirgel ac yn gyhoedd. Gan y Parchedig Peter Williams. Caerfyrddin, Argraphwyd gan J. Daniel, 1792." Sabeliaeth hollol ydyw yr Athrawiaeth a ddysgir yn hwn. Nid oes un lle i amheuaeth nad cyhoeddiad y Traethawd yma a fu yn achlysur cyhoeddiad y llyfr hwn, ar yr un testyn, gan Mr. Benjamin Jones. Ac y mae ynddo yn ymdrin a'r pwnc yn nodedig o alluog: yn wylaidd, ac eto yn drwyadl a phenderfynol. Ni chyhoeddodd ddim arall, trwy y Wasg, heblaw y gwaith hwn ar y Drindod, a'r llyfr sydd yn dyfod yn awr dan ein sylw, ar
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/305
Gwedd