Gyda'r Diwygiad Protestanaidd, fe roddwyd arbenigrwydd neillduol ar athrawiaeth Augustine, ynnghylch gras Duw, ond y mae yn ymddangos fod y Diwygwyr cyntaf oll yn edrych ar aberth Crist fel yn gwisgo gwedd gyffredinol, ac wedi ei offrymu yn y fath fodd, dros holl ddynolryw, ag i osod i lawr sylfaen gobaith i bawb. Dyna, yn ddiddadl, oedd golygiad Calvin ei hunan. Felly hefyd y dysgai Bullinger, Musculus, Zanchius, ac felly Diwygwyr Lloegr yn gyffredin. Yn Tyndal a Ridley yn unig y cyfarfuasom ni â dim yn arwyddo tuedd at y golygiad manylach a chyfyngach. Ond, yn yr oes ganlynol i oes y Diwygwyr cyntaf, pan ymdrechid dwyn Duwinyddiaeth i wedd fwy Cyfundraethol, fe ddaeth y syniad am Neillduolrwydd y Prynedigaeth yn fwy cyffredin yn mhlith Duwinyddion Calvinaidd.
Yr oedd hyn wedi dechreu, yn wir, gydâ Beza, yr hwn oedd y cyntaf yn eu plith i ddysgu mewn modd pendant yr athrawiaeth o Brynedigaeth Neillduol, yn yr ystyr fanylaf, a chan esbonio yr holl eiriau eang a chyffredinol a arferir yn y Testament Newydd, gyda golwg ar hyn, naill ai yn cyfeirio at yr etholedigion yn unig, neu at y Cenhedloedd yn gystal a'r Iuddewon, neu, ynte, eu bod yn cael eu defnyddio mewn ystyr anmhennodol, ac yn golygu pob gradd a dosbarth o ddynion. Ond nid ydym yn deall ei fod yntau, yn un man, yn amcanu myned i mewn yn fanwl i'r prawf o'r pwnc, nac yn ceisio ei egluro yn ei gysylltiad â rhanau ereill o'r athrawiaeth efengylaidd; ond, yn hytrach, yn ei gymmeryd braidd yn ganiatäol fel yn canlyn yn angenrheidiol oddiwrth y gwirionedd ysgrythyrol, fel ag yr oedd efe yn ei ddeall, am Arfaeth ac Etholedigaeth. Y cyntaf, ni a dybiem, a ymgymmerodd âg egluro ac amddiffyn yr athrawiaeth, mewn gwedd ffurfiol a chyfundraethol, oedd Mr. Perkins, mewn llyfr a gyhoeddwyd ganddo yn Lladin, yn y flwyddyn 1590, dan yr enw,—Armilla Aurea,"—llyfr a gyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol yn y Saesoneg, dan yr enw,—"A Golden Chaine, or the Description of Theologie: containing the Order of the Causes of Salvation and Damnation, according to God's Word, &c." Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at y llyfr hwn, yn ein sylw ar "Y Lladmerydd," tu dalen 356. Yr oedd Perkins, ar y pryd, yn Ddysgawdwr enwog yn Mhrif Athrofa Caergrawnt, a'i glod yn adnabyddus trwy holl Frydain, ac ar Gyfandir Europe. Tua y flwyddyn 1598, fe ddaeth y llyfr hwn o'i eiddo i law Arminius, yr hwn oedd, ar y pryd, yn weinidog yn Amsterdam. Wedi ei ddarllen, fe ymgymmerodd ag ysgrifenu Atebiad iddo, yn