y ffurf o lythyr cyfeillgar at ei Awdwr. Pan ydoedd yn tynu at ddiwedd y gwaith, fe dderbyniodd y newydd am farwolaeth Perkins; felly ni orphenwyd y llyfr byth ganddo, ac ni chyhoeddwyd yr hyn a orphenasai yn ei fywyd ef, ond fe'i cyhoeddwyd gan ei fab wedi ei farwolaeth, ac y mae i'w gael yn yr argraffiad o'i holl waith. (The Works of James Arminius, D.D., formerly Professor of Divinity in the University of Leyden. Translated from the Latin, in three Volumes. Vol. III. pages 281—525, Auburn, 1853). Y mae y gwaith hwn o eiddo Arminius yn profi fod ei awdwr yn nodedig o alluog, ac, ynddo ei hunan, yn myned yn mhell at roddi cyfrif am y dylanwad mawr a ennillodd ar ei gydwladwyr. Y mae ynddo yn dadleu dros Brynedigaeth Gyffredinol yn yr ystyr helaethaf, gan edrych ar Aberth Crist wedi ei offrymu dros ddynolryw yn ddiwahaniaeth; a chan ddadleu fod Etholedigaeth, o ran trefn, yn ddilynol i'r lawn, ac yn golygu y bwriad dwyfol i gadw yn unig y rhai a ragwelid a wnelent ddefnydd o'r Iawn drostynt eu hunain. Ond ymledu a wnaeth syniad Perkins yn mhlith Duwinyddion Calvinaidd ar y Cyfandir, ac, yn enwedig, wedi sefydliad Arminius yn Athraw Duwinyddiaeth yn Leyden, a'r dadleuon cynhyrfus a ganlynasant hyny, fel, erbyn y Gymmanfa fawr a gynnaliwyd yn Dort, yn Holland, yn y blynyddoedd 1618, 1619, yr oedd wedi dyfod mor gyffredin, fel ag yr oedd agos ei holl aelodau, yn cynnwys cynnrychiolwyr o'r nifer amlaf o eglwysi Protestanaidd Europe, yn dadleu drosto. Yr oedd yno amryw, y mae yn wir, ac yn enwedig y cynnrychiolwyr dros Eglwys Loegr, yn cymmeryd y golygiad eangach, ac yn dadleu dros gyffredinolrwydd Aberth Crist, yn yr ystyr yr arferasai Calvin ac ereill ei osod allan ond yr oedd y mwyafrif dros y golygiad arall: eto, oblegyd dylanwad cynnrychiolwyr Lloegr, ac ereill, ni chafodd y fath arbenigrwydd, ag a fynai y blaid gyfyngach, yn y Datganiad neu y Cyhoeddiad a wnaed ganddynt o'u Barn ar yr amrywiol bynciau mewn dadl rhwng yr Arminiaid a'r Calviniaid. Y maent yn hwnw yn sefyll yn gryf dros ddigonolrwydd mewnol aberth Crist dros yr holl fyd, a bod cynnygiad teg a didwyll o fywyd tragywyddol yn cael ei wneuthur yn yr efengyl i bawb yn ddiwahaniaeth ag y mae yn cael ei hanfon atynt; ac, am y rhai anedifeiriol ac anufudd i'r efengyl, mai eu hannghrediniaeth eu hunain, ac nid unrhyw ddiffyg neu annigonolrwydd yn aberth Crist, fydd yr achos o'u colledigaeth. (Canones Synodi Dordrechtana, De Redemptione, Articuli 3, 5, 6, 8, 9; Collectio Confessionum in Ecclesiis Reformatis Publicatarum. Edidit Dr. H. A. Niemeyer, Lipsiae, 1840.)