Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/405

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r naill du a'r llall, yn tyneru i ail undeb er ys rhai blynyddoedd bellach; ac yn ystod y flwyddyn hon, 1870, y mae y rhwyg wedi ei gyfanu, a'r Eglwys Henaduriaethol yn Unol Daleithiau yr America drachefn mewn cysylltiad âg un Gymmanfa Gyffredinol. Ac os nad ydyw yr aelodau yn hollol gydolygu yn nghylch Aberth Crist a'r Prynedigaeth, y mae y ddadl ar y pwnc hwn a phynciau ereill wedi darfod, a phawb yn ymddangos yn benderfynol i gydoddef â'u gilydd mewn cariad.

Fe fu Calviniaid Cymru, o ran y pethau neillduol i'w cyfundraeth eu hunain, am ugeiniau o flynyddoedd, yn heddychlawn hollol â'u gilydd, a pha wahaniaeth bynnag, yn y cyfamser, a allai fod yn eu golygiadau athrawiaethol, yr oeddent yn gallu cyd-ddwyn yn dawel y naill a'r llall, heb yr un ddadl gyhoeddus, neu trwy y wasg, yn eu plith. Y tir cyffredin a gymmerid ganddynt y pryd hyny oedd,--digonolrwydd anfeidrol Aberth Crist fel sail gobaith i'r pechadur penaf am faddeuant ac iachawdwriaeth, a galwad ar ddynion yn gyffredinol a diwahaniaeth, i nesâu ato, i gyfranogi o'r iachawdwriaeth hono; ac eto fod perthynas neillduol a chyfammodol rhyngddo a'r etholedigion, j fel eu Meichniydd, yn sicrhau eu cadwedigaeth hwy trwyddo. Dyma y tir cyffredin. Yr oedd rhai yn mhlith y Bedyddwyr, yn y Deheudir a'r Gogledd, trwy ddylanwad syniadau Gill, a Brine, a Martin, ae ereill, yn Lloegr, yn cymmeryd tir culach, ac yn gwadu fod yr efengyl mewn ystyr briodol yn galw ar bawb, na bod rhwymedigaeth union-. gyrchol ar bawb i roddi ufudd-dod ffydd iddi. Ond eithriadau oedd y rhai hyny; y tir cyffredin oedd y tir a nodwyd genym; tra, yr un pryd, y mae yn ymddangos nad oedd eu meddyliau erioed wedi eu dwyn yn uniongyrchol uwch ben y cwestiwn o gysondeb digonolrwydd cyffredinol a diwahaniaeth i bawb, a gosodiad neillduol a phendant dros rai. Ond wedi dyfodiad y Wesleyaid i Gymru, a'r dadleuon a achlysurwyd ganddynt, fe ddygwyd y cwestiwn hwn yn fuan i sylw. Yr oeddent hwy yn haeru yn gryf nad oedd gweinidogaeth yr efengyl, fel y cyhoeddid hi gan y Calviniaid, ond hocedus a thwyllodrus; eu bod yn galw ar bawb, tra nad oedd dim wedi ei ddarpar, yn ol eu hathrawiaeth hwy, ond ar gyfer yr etholeligion; ac, yn ganlynol, pe buasai y lleill yn credu, na buasai eu ffydd ond hollol ofer. Wedi dwyn y cwestiwn fel hyn i sylw, a chan ymdeimlo â'r anhawsder cysylltiedig â'u cyfundraeth, ac er ceisio ei chadw yn gyfanwaith cyson, fe gymmerwyd