Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn cyd—fyned â'r traddodiad i'w gweled yn yr adroddiad, eto y mae yn ddangosiad teg o nodwedd, mater, ac ysbryd gweinidogaeth William Evans, Tonyrefail, ar y pryd y daeth i'r golwg fel un i gymeryd ei le yn mysg pregethwyr enwocaf y Cyfundeb Methodistaidd. Yr ydym yn awr yn dychwelyd at yr hanes.

Cyraeddodd Mr. Evans adref o'i daith fawr trwy'r Gogledd dydd Llun, y 27ain o Fehefin. Y Sabboth dilynol, sef y 3ydd o Gorphenaf, yr oedd yn pregethu ar Donyrefail yn y bore, yn Salem, Pencoed, am 2, ac yn yr Hen Gastell, Penybontar—Ogwr, am 6. Yna bore Llun, y 4ydd, efe a aeth rhag blaen tua Chymdeithasfa Caerfyrddin, yr hon oedd i'w chynal ar y бed a'r 7fed. Yn nghofnodau y Gymdeithasfa hono yr ydym yn darllen fel y canlyn:—"Am 2, ymddyddanwyd â William Evans gyda golwg ar ei neillduad, yr hyn a fwriedid i gymeryd lle yn y Gymdeithasfa nesaf; a phenodwyd E. Richard i lefaru am natur eglwys, a'r Parch. Mr. Charles i roddi'r siars ar yr achos." Y mae yn ymddangos i ryw swyddog o sir Benfro amlygu nad oeddynt hwy yn y sir hono wedi clywed William Evans yn pregethu. Nid ydym yn gwybod a ddarfu i'r blaenor fyned yn mhellach, fel ag ar y cyfrif hyny i wrthwynebu y bwriad i neillduo Mr. Evans. Mor bell ag yr oedd hyny yn myned, yr ydoedd yn wrthwynebiad. Ond fe atebwyd ar unwaith gan Mr. Charles,"Chwi gewch ei glywed yn pregethu am ddeg bore yfory o flaen Mr. Ebenezer Richard." Ac felly y bu. Yr oedd trefn y moddion cyhoeddus fel hyn:—Am 5, Wm. Griffiths a David Evans; am 6, bore y 7fed, John Thomas, Aberteifi; am 10, Wm. Evans, Mr. Parsons (yn y Saesonaeg), a E. Richard; am 2, W. Morris a D. Griffiths; ac am 6, D. Howell a Thos. Harries. Testyn Mr. Evans y tro hwn ydoedd Rhuf. iii. 24: “A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras Ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu." Yr oedd yn hoff, yn enwedig yn ei flynyddoedd diweddaf, o gyfeirio at y Gymdeithasfa hono yn Nghaerfyrddin. Yr