Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym yn ei gofio yn gofyn yn sydyn, "Wyddoch chwi beth wnaeth Mr. Charles, Caerfyrddin, â fi?" "Beth oedd hyny? Yna adroddai yr hanes. Gofynasom iddo, "Beth oedd eich testyn chwi ?" Adroddodd yr adnod, ac ail ddechreuai y testyn—"A hwy.' Pwy oeddynt ? Yr un rhai ag a ddesgrifir yn yr adnodau blaenorol, sef y rhai a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw ;' ac y maent yr un nifer hefyd. Ddywedais i ddim o hyny y pryd hwnw ; ond mi fuaswn yn ei ddyweyd yn awr; oblegyd fel yr aeth pawb i lawr yn yr Adda cyntaf, fe godwyd pawb i'r lan yn yr ail Adda, fel ag i fod ar dir ag y mae yn bosibl iddynt gael eu cadw." Gadawodd caredigrwydd Mr. Charles, a'i ymyriad ar ei ran, argraff annileadwy ar ei feddwl, ac arosodd yn fyw yn ei gôf ac yn ddwfn yn ei galon. Rhywbryd yn y flwyddyn 1890 aeth Mr. a Mrs. Davies, Cwrtmawr, Llangeitho, i ymweled âg ef yn nghwmni ei fab hynaf. Y ffordd a gymerwyd i gyflwyno Mr. Davies iddo oedd fel hyn:—" Pan yr oeddid yn trefnu i'ch ordeinio chwi, fe wnaeth rhywrai wrthwynebu, oni do fe?" "Do, ond fe gymerodd Mr. Charles fy mhlaid i." "Wel, dyma ŵyr Mr. Charles." Gyda hyny yr oedd mewn hwyl fawr yn croesawu Mr. Davies. Yna trodd at Mrs. Davies, a gofynodd, "Pwy yw hon?" "Dyma Mrs. Davies, merch y Parch. D. Humphreys; a ydych yn ei gofio ef?" "Ydwyf, yn ddigon da; nid i sir Aberteifi yr oedd e' yn perthyn, ond i sir Gaerfyrddin." Yr oedd cyffwrdd âg enw Mr. Charles, a chofio am y gymwynas yn Nghymdeithasfa Caerfyrddin, Gorphenaf, 1825, bob amser yn adfywiad i'w ysbryd ac yn llonder i'w deimlad.

Yr unig grybwylliad o ddyddordeb sydd yn ei ddydd—lyfr am y gweddill o fis Gorphenaf yw agoriad capel Pontfaen, yr hyn a gymerodd le ar y 13eg a'r 14eg. Nid oedd Mr. Evans yn cymeryd rhan yn y pregethu, ond yr oedd yn bresenol yn rhai o'r oedfeuon, os nad yn yr oll o honynt, a dododd i lawr drefn y moddion. Y nos gyntaf pregethodd Mr. William Griffiths a Mr. Rowland Hill; am ddeg, yr ail