Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiwrnod, Mr. Charles a Mr. Rowland Hill; am ddau, Mr. Thomas Harries a Mr. Charles; ac am chwech, Mr. Rees Jones a Mr. Thomas Harries. Yn ystod y mis hwn hefyd yr oedd yn ymbarotoi yn ofalus ar gyfer ei neillduad. Byddai dodi Mrs. Evans i ofyn y cwestiynau, a byddai yntau yn eu hateb iddi hi yr un fath ag y bwriadai roddi yr atebion o flaen y Gymdeithasfa.

Cymerodd y neillduad le yn Nghymdeithasfa Aberteifi, yr hon a gynelid ar y 10fed a'r 11eg o Awst, am wyth o'r gloch bore yr 11eg. Y llywydd oedd Mr. Charles, Caerfyrddin. Fel y canlyn y mae y cofnodiad o'r cyfarfod ordeinio fel yr ysgrifenwyd ef gan Mr. Ebenezer Richard:" Am 8, yr 11eg, neillduwyd William Evans yn y drefn ganlynol: gweddiodd David Elias am fendith ar y cwbl. Gofynodd T. Richard a oedd dewisiad y brawd William Evans wedi bod yn rheolaidd. Atebodd un o'r cynrychiolwyr yn gadarnhaol. Darllenodd J. Jones, Treffynon, 1 Tim. iii. a Titus i., a gweddiodd. Yna llefarodd E. Richard ychydig ar Natur Eglwys. Gofynodd Mr. J. Roberts y gofyniadau, a chafwyd atebion byr, synwyrol, a goleu iddynt. Yna gofynodd Mr. Gwalchmai a oedd y Corph yn ei ddewis, yr hyn a arwyddwyd trwy i bawb sefyll yn unfryd ar eu traed, gan ddyrchafu y llaw ddeheu. Rhoddodd Mr. Charles y siars oddiwrth 2 Cor. xi. 3, a gweddiodd Richard Jones o'r Wern." Fe sylwa y darllenydd mai William Evans yn unig a ordeiniwyd y flwyddyn hono yn y Deheudir.

Ar ei ffordd i'r Gymdeithasfa yn Aberteifi, wedi pregethu am ddeg yn Nghyfarfod Misol Aberdar, ar y 3ydd o Awst, aeth erbyn yr hwyr i Gastellnedd. Dranoeth, y 4ydd, yr oedd yn yr Hendre, sir Gaerfyrddin, ganol dydd, ac yn nhref Caerfyrddin y nos; yna aeth i Meidrim erbyn deg y 5ed, ac oddiyno ar draws y wlad erbyn y nos i Woodstock, yn swydd Benfro. Yr oedd Mr. Evans wedi bod yn teithio ac yn pregethu yn holl siroedd ereill Cymru; dyma fe yn awr yn sir Benfro. Fe ddichon mai difyr gan y cyfeillion yn y sir