Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hono fydd gweled trefn y cyhoeddiad a'r testynau. "Awst 5ed, 7, Woodstock, Mat. 5. 4. 6fed, 12, Hall, 1 Petr 4. 18; 7, Solfach, Salm 89. 14. 7fed, Sul, 10, Tyddewi, Job 33. 24; 2, Caerfarchell, Mat. 5. 4; 6, Trefin, Rhuf. 3. 24. 8fed, 12, Felindre, Salm 89. 14; 7, Abergwaen, 1 Petr 4. 18. 9fed, 10, Trefdraeth, Rhuf. 3. 24; 2, Glanrhyd, Mat. 5. 4; 7, Cilgeran, Job 33. 24." Ni chafodd ei enwi i bregethu yn y Gymdeithasfa. Yr oedd trefn y moddion cyhoeddus yn Aberteifi fel hyn:-"Y prydnawn cyntaf, Daniel Jones a William Jones. Am 6, John Jones, Treffynon, a Richard Jones, Wern. Am 10, Mr. Charles, Theo. Jones (yn Saesneg), a J. Roberts, Am 2, H. Gwalchmai a Mr. Evans. Cafwyd hin gysurus, y dyrfa yn fawr, a'r cymorth yn amlwg iawn." Gallwn feddwl i Mr. Evans ymadael yn union ar ol yr oedfa ddeg, gan ei fod yn pregethu yn Nghastellnewydd-Emlyn yn yr hwyr; ac y mae yn sicr genym iddo alw heibio y Twrgwyn i weled Mr. Ebenezer Morris, yr hwn a fu farw y dydd Llun canlynol.

Ar ol Cymdeithasfa Aberteifi a'i neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth, yr ydym yn cael Mr. Evans am y gweddill o'r flwyddyn yn ymgadw yn gwbl o fewn terfynau ei sir ei hun. Ac yn awr yr ydym yn cyfarfod â nodwedd newydd yn ei gof-lyfr, sef y bedyddiadau a weinyddid ganddo. Y tro cyntaf iddo weinyddu yr ordinhad o fedydd ydoedd ar yr 28ain o Awst. "Bedyddiais Mary, merch David Arthur a Gwenllian ei wraig, August 28, 1825." Y Sabboth oedd y diwrnod hwnw, ac yr oedd efe yn Salem, Pencoed, y bore, Eweny y prydnawn, a'r Hen Gastell (Penybont) yr hwyr; eithr nid hysbysir ni yn mha un o'r lleoedd hyn y cymerodd y bedydd le. Cyflawnodd yr un gwasanaeth bedair-ar-ddeg o weithiau cyn diwedd y flwyddyn. Y Sabboth cyntaf ar ol ei neillduad yr oedd yn Nghastellnedd y bore, yn Aberafon am ddau, ac yn y Pil yr hwyr. Y mae yn dra thebyg ei fod yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn y bore a'r hwyr. Ac yn gymaint nad oedd nifer y gweinidogion yn