Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VI.

1826-1830.

CYNWYSIAD.

Y Cymdeithasfa Penybont-Ymweliad cyntaf Mr. Evans â Llundain-Y llyfrau a brynodd—Cyfarfodydd Misol a Chymdeithasfaoedd 1827— Ymweliad â Bristol—Cymdeithasfa Abergwaen, 1828: adgofion y Parch. Dl. Symmons-Agoriad capel Croesfân—Mr. Evans yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol—Y cofnodion am 1829-Codi capel yn y Ddinas, Cwm Rhondda--Cymdeithasfaoedd Pontypool a Chaerfarchell, 1829 —Taith i'r Gogledd-Cymdeithasfa y Bala: adgofion y Parch. John Jones, Ceinewydd—Agoriad capeli Brynsadler a Cityiscoed, Penllin—Agoriad capel Dinas Rhondda, 1830—Cymdeithasfa Pontfaen; y cofnodau yn nghylch cadw society—Yr ymweliad âg eglwysi Morganwg yn 1830—Cymdeithasfa Aberteifi-Achos Merthyr-Mr. Edward Williams, Mr. Benjamin Williams, a Mr. Jenkin Harry.

AR ol gwrandaw Mr. Evans yn pregethu yn y Bala Mehefin, 1825, gwnaeth Mr. Elias y sylw, "Dyna ddyn ieuanc i fyned i Lundain." Yr oedd gofal mawr gan Mr. Elias am yr achos yn y brif-ddinas; ac ar y pryd nid oedd efe ond newydd ddychwelyd oddiyno. Yn Nghofiant Mr. Ebenezer Morris yr ydym yn darllen fod Mr. Elias i olynu y gweinidog hynod hwnw "yn y brif-ddinas am rai wythnosau” (tud. 72), sef ar ol Cymanfa y Pasc, 1825. Os arosodd Mr. Elias ddeufis yn Llundain yn ol y drefn arferol yr amser hwnw, nid oedd efe gartref pan yr oedd Mr. Evans ar ei daith trwy Sir Fôn. Nid yw yn annhebyg gan hyny mai y tro crybwylledig yn y Bala oedd y cyntaf i Mr. Elias ei glywed. Ac y mae yn ymddangos iddo yn fuan hysbysu am enw y gweinidog o Donyrefail i'r frawdoliaeth yn Llundain; oblegyd daeth cais ato i fyned i wasanaethu yr achos yno am y misoedd Chwefror a Mawrth, 1826. Cyflwynwyd y cais o'r