Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brif-ddinas i'r Gymdeithasfa a gynaliwyd yn Mhenybont-arOgwr, Ionawr 4ydd a'r 5ed, 1826. Penderfynwyd bod y brawd William Evans yn myned i Lundain dros y Corph." Ac yn unol â'r penderfyniad hwn yr ydym yn ei gael yn y brif-ddinas o ddechreu y mis Chwefror dilynol hyd ddiwedd Mawrth. Pregethodd yn Bristol ar y 1af o Chwefror, a chyraeddodd Llundain am 9 o'r gloch nos Wener, y 3ydd. Bu yn y brif-ddinas dros wyth Sabboth, a'r olaf ydoedd Sul y Pasc, yn disgyn ar y 26ain o Fawrth. Nid yw y cof-lyfr yn cynwys dim o hanes ei lafur yn Llundain y tro hwn. Yr unig grybwylliad a gawn yw y canlynol: "(No. 17) Margaret, the daughter of Edward Edward by Jane his wife, was baptized at Green Street, Blackfriars Road, London, March the 6th, 1826, by me, William Evans." Eithr a barnu oddiwrth y cyfrif o'i waith yn y tymorau diweddarach y bu yn Llundain, nid oes ameuaeth y bu ei lafur yn fawr yn ysbaid ei ymweliad cyntaf hwn, a'i fod yn pregethu, nid yn unig ddwywaith a theirgwaith ar y Sabbothau, ond hefyd yn aml ar nosweithiau yr wythnos. Yr oedd hefyd yn defnyddio yr hamdden yr oedd yn ei gael oddiwrth ei ofalon cartrefol i ddarllen a myfyrio yn galed; a byddai gwraig y tŷ yr oedd yn aros ynddo yn gorfod ei gymhell i fyned allan i rodio, fel na byddai iddo achosi gormod "blinder i'r cnawd."

Pan yn Llundain y tro hwn yr ydym yn cael iddo brynu rai llyfrau. Nid oedd ei stoc o lyfrau yn flaenorol ond bychan, ac yn mron yn gwbl os nad yn hollol felly yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd wedi cael Mynegeir Ysgrythyrol Mr. Peter Williams mor bell yn ol a mis Gorphenaf, 1814, sef yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei briodas. Y mae hyn yn eglur awgrymu beth oedd gogwydd ei feddwl ar y pryd hwnw. Yn mis Mai, 1816, prynodd gopi o Eiriadur Ysgrythyrol Mr. Charles. Dyma brawf amlycach o dueddiad ei feddwl. Yn 1819 efe a gafodd gopi o Esboniad Thomas Jones ar Lyfr Job, ac yn yr un flwyddyn Gwaith Gurnal ar Gyflawn Arfogaeth Duw, wedi ei gyfieithu gan Thomas