Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones; yn 1820 Corph o Dduwinyddiaeth Dr. George Lewis; ac yn 1821 Amseryddiaeth Ysgrythyrol Simon Lloyd. Ас yn awr yn Llundain prynodd Annotations Pool ac Esboniad Matthew Henry, yn nghyda Phregethau Robert Traill, 4 cyfrol; Gweithiau John Newton, 6 cyfrol; a Witsius ar y Cyfamodau, 2 gyfrol; ac yn Bristol ar ei ffordd adref, Body of Practical Divinity Gill. Yr ydym yn cofio ei glywed yn dyweyd iddo ofyn i Mr. Elias pa esboniadau yr anogai efe iddo eu cael, ac iddo yntau ateb, "Henry a Pool yn nghyd, ond Scott wrtho ei hunan." Mwy na hyny, bu Mr. Elias mor garedig a phrynu copi o Pool iddo, a gwnaeth ei hunan ei gario i'r llety. Y pris oedd £2; a £5 oedd y swm a dalodd Mr. Evans am y copi o Matthew Henry. Rhwng y cwbl yr oedd ganddo sypyn da o lyfrau i'w dwyn adref, lle y cyraeddodd yn gynar yn yr wythnos gyntaf yn Ebrill, ar ol treulio Sul, yr 2il, a phregethu dair gwaith yn Bristol.

Ar ol ei ddychweliad o Lundain, yr ydym yn ei gael yn dilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol yn Morganwg gyda'i ymroddiad arferol. Yr oedd yn Nghyfarfod Misol Aberddawen, yn ngwaelod y Fro, ar y 19eg a'r 20fed o Ebrill, ac yn pregethu am 6 y nos gyntaf. Cynaliwyd y Cyfarfod Misol dilynol yn Merthyr, ar y 1ofed a'r 11eg o Fai; ond os oedd efe yno, ni chymerodd ran yn y pregethu. Ar y 24ain a'r 25ain o'r un mis cynelid Cymdeithasfa yn Nhredegar, pryd yr oedd Mr. John Elias yn bresenol ac yn pregethu ddwywaith, sef am 5 y diwrnod cyntaf, ac am 10 yr ail ddydd. Ar y бed a'r 7fed o Fehefin, yr oedd Mr. Evans yn bresenol yn Nghyfarfod Misol Mynwy a gynelid yn Llaneurwg, a phregethodd yr ail fore. Oddiyno aeth erbyn yr hwyr i Gasnewydd. Dranoeth yr oedd yn Abergwyddon am 12, ac yn y Gelligroes am 7; a'r dydd canlynol yn Mynyddislwyn am 12, ac yn Rock am 7. Nos Sadwrn, y 1ofed, yr oedd yn pregethu yn Aberdar, ac am 9 bore Sabboth, yr 11eg; yn Hirwaen am 1, ac yn Llanwyno am 6. Ar y 14eg o'r un mis yr oedd yn pregethu yn Mhenybont nos gyntaf y Cyfarfod