Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Misol yno. A thrachefn ar y 27ain am 6 yn Nghymdeithasfa Llandeilo, a rhoddodd ychydig oedfeuon wrth fyned a dychwelyd. Ar y 14eg o Gorphenaf, pregethodd am 6 nos gyntaf Cyfarfod Misol Llanilltyd Fawr. Y Sul dilynol yr oedd yn Mhenycae, Mynwy, y bore, yn Nantyglo am ddau, ac yn Nghendl yn yr hwyr. Bellach hefyd yr ydym yn cael cofnodiadau mynych o'r bedyddiadau a weinyddid ganddo; a chrybwylliadau nid anaml am angladdau y gelwid arno i bregethu ynddynt. Dyma engraifft bruddaidd o'r diweddaf yn agos i ddiwedd Gorphenaf, 1826:-" Am 10, angladd tri o blant Wm. Matthew ar yr un pryd-1 Samuel iii. 18; dyma yr adnod: "A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, yr Arglwydd yw Efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Y mae o leiaf un bedydd a weinyddwyd ganddo yn y flwyddyn hon yn deilwng i gael ei groniclo yma. Fel hyn y mae y cofnodiad: "(16) Watkin, the son of Thomas Williams and Margaret his wife, was baptized at Caercyrlas-uchaf, the 24th day of January, 1826." Nai iddo ydoedd y mab bychan hwn, mab ei chwaer ieuangaf, yr hwn a dyfodd i fyny i fod yn weinidog defnyddiol a chymeradwy, a chyfaill ei ewythr ar ei daith olaf trwy Ogledd Cymru. Ni a gawn gyfeirio ato eto. Eithr i fyned yn mlaen.

Yr oedd Mr. Evans yn pregethu am 10 yn Nghyfarfod Misol y Creunant ar yr 17eg o Awst, ac ar yr un awr yn Nghyfarfod Misol Dyffryn Margam y 5ed o Hydref. Aeth i Gymdeithasfa Trefdraeth, swydd Benfro, yr hon a gynelid ar y dydd olaf o'r mis a'r cyntaf o Dachwedd, ac yr oedd yn pregethu yno am 3 y prydnawn cyntaf. Gwnaeth ychydig o daith wrth fyned a dychwelyd. Sabboth, y 5ed o Dachwedd, yr oedd yn y Goppa am 9, Castellnedd am 2, a'r Dyffryn am 6. Ni a'i cawn ef yn Nghyfarfod Misol Abertawy ar y 6ed a'r 7ed o Ragfyr, ac yn pregethu am 6 y nos gyntaf; ac aeth oddiyno at ei gyhoeddiad y Sabboth dilynol yn Merthyr a Dowlais, gan roddi oedfeuon ar ei ffordd yn Llansamlet, y Fynachlog, Ynysfach, a Hirwaen. Terfynodd ei lafur am