Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau eglwysig. Yr oedd rhywbeth yn mron bob nos yn y capel, ac yr oedd yntau bob amser yn ei le, yr hyn sydd yn profi y gallasai wneud gweinidog sefydlog yn llawn cystal ag ydoedd o bregethwr teithiol. Ar gyfer y 6ed o Ragfyr yr ydym yn cael hyn,—"Gwrandaw Mr. Robert Hall."

Gan fod ei Sabboth olaf yn Bristol y tro hwn ar y 30ain o Ragfyr, mae yn amlwg nas gallodd fyned i'r Pil i'r Cyfarfod Misol oedd i'w gynal yno y dydd olaf o'r hen flwyddyn, a'r dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd (1829); ond y mae yn bossibl, ac nid yn annhebyg, iddo fyned i Gymdeithasfa Pontfaen, ar yr 2il a'r 3ydd o Ionawr. Cymdeithasfa achlysurol ydoedd hon, megys yr un a fuasai yn yr un lle yn nechre y flwyddyn o'r blaen, ac yn gyffelyb i'r Gymdeithasfa yn Mhenybont y flwyddyn cyn hyny. Y mae hanes am luaws o'r cyfryw Gymdeithasfaoedd achlysurol yn y cyfnod hwnw, yn ychwanegol at y Cymdeithasfaoedd Chwarterol. Y peth cyntaf yn hanes Mr. Evans am y flwyddyn 1828 sydd yn tynu ein sylw ato, ydyw taith o'i eiddo ar hyd terfyn dwyreiniol Morganwg. Buasai yn Nghyfarfod Misol y Rock, Mynwy, ar y 4ydd a'r 5ed o Fawrth. Y Sul dilynol, y 9fed, yr oedd yn Llangynwyd y bore, Pontrhydyfen y prydnawn, a'r Dyffryn y nos. Yna dydd Llun, y 1ofed, ar ei ffordd adref, pregethodd yn Nglynogwr ganol dydd, ac ar y Ton yn yr hwyr. Dranoeth aeth i Lanwyno, Aberdar, a Hirwaen. Y dydd dilynol i'r Cefn a Merthyr. Y diwrnod ar ol hyny pregethodd yn Llanfabon, Ystradmynach, a Chaerffili. Dydd Gwener, y 14eg, yr oedd yn yr Eglwys Newydd, Bethel, a Chaerdydd; a dydd Sadwrn yn Mhentyrch, Bryntirion, a Llantrisant. Oddiyno aeth at ei gyhoeddiad Sabboth yr 16eg, yn Llanilltyd Fawr a Llysyfronydd. Cyn pen yr wythnos y mae yn cychwyn i fyned i'r Gymdeithasfa oedd i'w chynal yn Abergwaen ar y 25ain a'r 26ain, lle y pregethodd am 3 oddiar Heb. iii. 19; a therfynodd ei daith wrth ddychwelyd yn Nhreforris ar yr 31ain. Y mae y Parch.