Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daniel Symmons yn cofio am y Gymdeithasfa hono, ac wedi ysgrifenu atom fel y canlyn:-"Yr wyf yn cofio y Parch. W. Evans, Tonyrefail, yn dda, ar y 25ain a'r 26ain o Fawrth, 1828, er nad oeddwn ond 13eg oed. Yr oedd son mawr am dano, ei fod yn bregethwr digyffelyb. Nid wyf yn cofio un gair o'i bregeth. Yr oedd ei wallt melyn, ei agwedd fywiog, a'i lais soniarus, peraidd, a seingar, yn tynu fy sylw neillduol; a phan ddarllenodd ei destyn-Heb. iii. 19, 'Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd annghrediniaeth,' deallais fod a fynai y geiriau â mi; er ieuenged oeddwn, teimlais fy mod yn greadur cyfrifol. Nid annghofiaf yr oedfa hono byth. Yr wyf wedi annghofio llawer oedfa wedi hyny, ond y mae yr oedfa hono, y geiriau hyny, a'r llais seraphaidd hwnw, a'r agwedd fywiog hono oedd ar y pregethwr, yn aros. Cefais ychydig o ymddyddan âg ef yn ei gartref flynyddau yn ol am fy helynt boreuol. Ymddangosai yr hen batriarch yn teimlo yn ddwys. Daeth i'm hebrwng i gyfeiriad fy nghyhoeddiad encyd o ffordd; a dyna y tro diweddaf y cefais y fraint o ysgwyd llaw âg ef."

Ar ol ei ddychweliad o'r Gymdeithasfa uchod yn Abergwaen, yr ydym yn ei gael, gyda dilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol ar hyd a lled Morganwg, ar y 7fed a'r 8fed o Ebrill, yn Nghyfarfod Misol Pencoed, ar y Sul cyntaf yn Mai yn Nhredegar, Rhymni, a'r Ysgwydd-gwyn; ar yr 11eg o Fehefin yn pregethu yn Nghwrdd Misol Llantrisant, ac ar yr 16eg o'r un mis yn Nhŷ Cwrdd y Cyfeillion y cyfeiriasom ato, ar lan y Mychydd, tua milldir i'r chwith o'r ffordd fawr sydd yn arwain o Donyrefail i Lantrisant. Ar y 15fed a'r 16eg o'r un mis yr oeddid yn "agor capel Brofiskin" neu Croesfân, lle y pregethodd am 10 oddiar Seph. ii. 3, o flaen Mr. David Howell. Ar y 3ydd o Gorphenaf yr oedd yn pregethu am 6 o'r gloch y bore yn Nghwrdd Misol Penybont. Y Sabboth dilynol yr oedd yn y Pil y bore, Aberafon am 2, ac yn nghapel yr Annibynwyr, Castellnedd, yn yr hwyr. Yr oedd capel y Methodistiaid yn Nghastellnedd y pryd hwnw