Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar lawr, ac yn cael ei ail-adeiladu, a'i wneuthur yn helaethach na'r un blaenorol. Oddiyno aeth i Abertawy erbyn nos Lun, a dranoeth i Gymdeithasfa Llanelli, sir Gaerfyrddin, a phregethodd am 4 y prydnawn cyntaf. Yr oedd yn Nghyfarfod Misol Aberdar y ddau ddiwrnod olaf o'r mis, ac yn cymeryd rhan yn y pregethu. Gwasanaethodd ei daith gartrefol y Sul cyntaf o fis Awst, gan ddechreu ar y Ton, a diweddu yn Nglynogwr; ac oddiyno aeth, bore dydd Llun y 4ydd, tua Llambedr-Pont-Stephan i'r Gymdeithasfa oedd i'w chynal yno ar y 6fed a'r 7fed. Cyrhaeddodd a phregethodd yn Nhrecastell nos Lun, ac yn Llanymddyfri ganol dydd Mawrth, ac yn Nghaio yr hwyr. Yr oedd yn pregethu am 6, bore dydd Iau, y 7fed, yn Llambedr. Y mae Mr. David Davies, Llanilar, yn cofio am yr oedfa. Y testyn oedd Iago i. 25; a thra yr oedd yn pregethu daliodd Mr. William Havard wlawlen uwch ei ben. Y mae yn cofio i'r pregethwr ddyweyd,—"Y mae perffaith gyfraith rhyddid a'r Tywysog oddiar yr orsedd yn rhyddhau y gwir Gristion. Y mae y gwir Gristion yn debyg i ganwyll y llygad—ni raid wrth bechod mawr i'w dywyllu, ond y tywodyn bach, os na olchir ef ymaith â dagrau edifeirwch, sydd yn sicr o gymylu rhyngddo a'i Dduw." Dychwelodd o Lambedr i Lanymddyfri nos Iau, a chynaliodd oedfeuon yn Ystradfellte a Phontneddfechan dydd Gwener. Eithr er meithder y daith, a byrder `yr amser y gwnaed hi ynddo, yr oedd Mr. Evans, bore Sul, i fyned i Glynogwr, ac oddiyno i Lantrisant erbyn dau, ac yn ol i'r Ton yr hwyr. Ar y 27ain o Awst aeth bob cam i Gyfarfod Misol Ystradgynlais, lle y pregethodd am 5 oddiar Heb. ix. 14. Ar ol cadw oedfa yn Abergwyddon, Mynwy, nos Sadwrn, y 6fed o Fedi, yr oedd yn cymeryd rhan mewn cyfarfod ysgolion yn y Gelligroes bore Sabboth, y 7fed, ac yn pregethu y prydnawn a'r hwyr. Oddiyno aeth nos Lun i Cadoxton, ac erbyn nos Fawrth i Fryntirion. Y Sul dilynol yr oedd yn gorphwys: y Sabboth cyntaf iddo fod gartref heb bregethu er dechreuad ei yrfa weinidogaethol. Ond y