Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabboth canlynol, yr 21ain, yr oedd yn Mhontnedd-fechan y bore, Ynys-fach y prydnawn, a Chastellnedd am chwech. Yr wythnos ar ol hyny yr oedd yn cymeryd rhan yn y pregethu yn Nghwrdd Misol Caerffili; a'r Sul olaf yn y mis yr oedd ar y Ton yn y bore, Bryntirion am ddau, a Phentyrch y nos. Fel yma yr ydoedd yn y gwaith mawr yn mron yn ddibaid. Nid yw yn ymddangos ei fod yn blino dim yn y gorchwyl ag yr oedd ei holl enaid yn llwyr gysegredig iddo. Yr oedd yn awr yn nghyflawnder ei nerth, ac y mae yn amlwg ei fod wedi penderfynu llanw ei wlad ei hun â'r efengyl, ac i gymeryd pob cyfleusdra a roddid iddo i efengylu i'w gydgenedl mewn parthau ereill o Gymru. Yr ydym yn cael prawf arall, ac amlwg iawn, o hyn yn y llafur yr aeth drwyddo yn mis Tachwedd, 1828. Wedi gwasanaethu y daith gartrefol Sul yr 2il, pregethodd ddwy waith y dydd yn yr wythnos ddilynol yn ngwahanol gapelau pen dwyreiniol Morganwg, yn gyffelyb fel y gwnaethai yn y mis Mawrth blaenorol.

Ar y 12fed y mae yn cychwyn ar daith fanwl trwy sir Frycheiniog, ac yn rhoddi ychydig oedfeuon ar ymylon dwyreiniol sir Gaerfyrddin, ac yn dibenu y daith yn y Llwyni, nos Iau, y 27ain. Gorphenodd waith y mis ar Sul, y 30ain, yn Aberdar y bore, Llanwyno am ddau, a Phontypridd yr hwyr. Hefyd pregethodd bedair gwaith dydd Nadolig; ac ar y Sul olaf o'r flwyddyn yr oedd yn pregethu yn yr Eglwys Newydd y bore, Bethel y prydnawn, a Chaerdydd yn yr hwyr.

Yr ydym yn awr yn dyfod at y flwyddyn 1829. Yn y dyddiad hwn y mae Mr. Evans yn dyfod ger ein bron mewn cymeriad newydd, sef fel ysgrifenydd cynorthwyol Cyfarfod Misol Morganwg. Gadawodd lyfr yn cynwys cofnodau weithrediadau naw o Gyfarfodydd Misol y flwyddyn 1829, ac yn gyffelyb am y blynyddoedd 1830 a 1831. Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol ydoedd Mr. Basset, cyfreithiwr, Llanilltyd Fawr, yr hwn oedd yn analluog i fod yn bresenol yn y cyfar-