Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fodydd o fis i fis; a phenodwyd Mr. Evans i gymeryd ei swydd yn ei absenoldeb, a gwnaeth yntau groniclo yn ofalus y gweithrediadau. Ac fel y gallesid dysgwyl, y mae'r cofnodion hyn yn taflu llawer o oleuni ar sefyllfa yr achos crefyddol yn Morganwg yn y blynyddoedd hyny. Yr ydym yn gosod i fewn yn llawn yr engraifft gyntaf o'r cofnodion.

"1829. Cyfarfod Misol Glynogwr, 28ain a 29ain.—1. Cydolygwyd yn Nghyfarfod Misol Glynogwr fod yr holl eglwysi yn y sir ag sydd wedi myned dan draul eu hunain yn achos helaethiad eu capelau, i gasglu yn eu plith eu hunain un swllt yn flynyddol gyferbyn â phob aelod at leihau y ddyled sydd ar gorph y sir, ac i ddyfod â'r casgliad hwn i mewn i Gyfarfod Blynyddol y Pil, ac i'w coffhau yn y ddau Gyfarfod Misol canlynol.

"2. Caniatawyd i bobl Cefncoedycymmer i helaethu eu capel, fel yr oedd angen yn galw am hyny, ond nad oedd iddynt ddysgwyl dim cynorthwy oddiwrth y sir, ond yn unig Merthyr a Dowlais; ac i ddyfod âg estimate o draul yr helaethiad, yn nghyda swm yr addewidion at yr helaethiad, i'r Cyfarfod Misol cyn dechreu adeiladu."

Mae yr ail o'r penderfyniadau uchod yn ddigon eglur, ac yn dangos y mawr ofal oedd gan y rhai a ffurfient y Cyfarfod Misol y pryd hwnw yn nghylch y draul o godi neu helaethu capelau. Y mae y penderfyniad cyntaf hefyd yn dwyn cysylltiad â'r un mater; ond fe ddichon fod ychydig eiriau o eglurhad yn ofynol gyda golwg arno. Yr oedd y pryd hwnw, fel y mae eto, ddyled yn gorphwys ar y Cyfarfod Misol, neu "gorph y sir," fel y cyfryw, yn gystal a'r dyledion oedd yn gorphwys ar leoedd neu eglwysi unigol. Achosid dyled y Cyfarfod Misol trwy ei waith yn ymgymeryd i dalu symiau dros leoedd gweiniaid. Mae yn ymddangos ei fod yn hen arferiad i ofyn cynorthwy y Cyfarfod Misol, a'i fod yr un modd yn hen arferiad gan y Cyfarfod Misol i roddi cymorth, a thrwy hyny yn myned i ddyled. I gyfarfod â'r cyfryw ddyled sirol y trefnwyd y cynllun a dynwyd allan yn y pen-