Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angen rhanu y sir yn ddosbarthiadau." Dyma hedyn symudiad arall sydd bellach yn hen, nid yn unig yn Morganwg, ond yn yr holl siroedd ereill, er hyrwyddo dygiad yn mlaen yr achos yn ein plith, ac sydd erbyn hyn wedi cyrhaedd mesur uchel o bwysigrwydd, ac yn ddiameu o effeithiolrwydd, trwy ffurfiad y Cyfarfod Dosbarth, yr hwn sydd yn gyfrwng gwasanaethgar rhwng y Cyfarfod Misol a'r eglwysi. Yn ychwanegol at y pethau a nodwyd "ymdriniwyd ychydig ar achos yr Ysgolion Sabbothol" yn Nhrehill, a phenderfynwyd ei fod i gael ystyriaeth pellach yn y Cyfarfod Misol nesaf, yr hwn a gynaliwyd yn Abertawy ar yr 2il a'r 3ydd o Ebrill. Yno penodwyd William Evans a Benjamin Williams i dynu allan restr o gylch-deithiau y gweinidogion yn ol penderfyniad y Cyfarfod Misol blaenorol, i'w darllen yn yr un dilynol, yn Salem, Pencoed. Caniatawyd i'r eglwys yn Llangyfelach i ddodi oriel yn y capel yno. Penderfynwyd fod y cyfarfod eglwysig i'w gynal ar yn ail wythnos yn y ddau gapel yn Abertawy, set y Cruglas a'r Trinity, a "bod dim ond un achos i'w ystyried yn y ddau gapel." Yn y cyfarfod neillduol am 8 o'r gloch yr ail fore, "Ymddyddanwyd â Mr. Francis ac â Mr. Cadwallader,"―y ddau flaenor (yr olaf oedd tadyn-nghyfraith Mr. David Howell), "1. Am eu sefyllfa bersonol rhyngddynt â Duw. Yn 2. Am eu profiad a'u tywydd gyda'r gwaith, fel golygwyr ar braidd Duw." Yn y Cyfarfod Misol dilynol, yn Salem, ar yr 20fed a'r 21ain o Ebrill, darllenwyd a chymeradwywyd cynllun cylch-daith y gweinidoglon; gosodwyd Mr. Basset a William Powell i nodi ymddiriedolwyr ar gapel Penybont; penderfynwyd na byddai i gapel newydd gael ei godi yn Aberdar nes y ceid gwell sylfaen nag oedd i'r hen; enwyd Thomas David a Richard Thomas o'r Prysc i fyned i Gymdeithasfa Caerfarchell, yn achos neillduad Benjamin Evans; ymddyddanwyd â dau frawd ieuanc o Aberdar am eu cymhelliadau i waith y weinidogaeth, a rhoddwyd caniatâd iddynt i ddechreu llefaru yn y cyfarfod eglwysig yn unig am ychydig; sylwyd ar yr