Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angenrheidrwydd i gryfhau trysorfa y sir, fel y gellid estyn ychydig gynorthwy i'r hen lefarwyr ag oeddynt wedi myned yn analluog i deithio; cymeradwywyd trefn newydd gyda'r Ysgolion Sabbothol, ac addawyd cyd-weithredu â'r cynllun yn ddioedi. Bu y pwnc o fedydd dan sylw yn y Cyfarfod Misol hwn, a chytunwyd nad oedd neb mewn oed i'w bedyddio ond aelodau eglwysig, na neb babanod i'w bedyddio ond plant crefyddwyr; ac mewn perthynas i genadwri a ddaethai oddiwrth frawd yn un o'r eglwysi gyda golwg ar fedyddio ei blant, penderfynwyd nas gellid bedyddio yr hynaf o honynt, yr hwn oedd yn 17eg oed, heb ei ganiatad ei hunan. Y Cyfarfod Misol nesaf yn 1829 ag y mae genym ei gofnodion o dan law Mr. Evans, a gynaliwyd yn Mhenybont, ar y 15fed a'r 1бeg o Gorphenaf. Yno penderfynwyd i Gastellnedd a Llansawel i fod yn daith Sabbothol, a'r Ynysfach a'r Creunant, ac Ystradgynlais "a'i hardaloedd" yr un modd. Cyfarfod eglwysig i'w gynal yn Llansawel bob pythefnos. brodyr o Gastellnedd i'w cynorthwyo. Penderfynwyd rhanu y sir yn chwech o ddosbarthiadau, a bod un llefarwr yn cael ei benodi yn mhob dosbarth i ofalu fod y casgliadau cyffredinol yn cael eu gwneuthur gan bob eglwys, ac yn cael eu dwyn i mewn i'r Cyfarfod Misol yn brydlawn. Y mae y cofnodiad nesaf yn un dyddorol iawn: "Enwyd Mr. Richard Thomas, William Evans, a Thomas David i ymddyddan â John James am ei gymhelliad i waith y weinidogaeth." Ac yn y Cyfarfod Misol dilynol, a gynaliwyd yn yr Eglwys Newydd ar y 12fed a'r 13eg o Awst, cyflwynasant eu hadroddiad, a phenderfynwyd "Fod rhyddid i John James i lefaru yn gartrefol yn unig, ac i lefaru o flaen rhyw frawd, ac nid wrtho ei hun, am ychydig amser eto." Dyma y gŵr a ddaeth wedi hyny yn adnabyddus trwy Gymru fel y Parchedig John James, Penybont. Ni a gawn achlysur i wneuthur crybwylliad helaethach am dano mewn penod ddilynol. Hefyd rhoddwyd caniatad i John Samuel, Fforddlas, i gyngori ychydig yn yr Ysgol Sabbothol yn unig. Caniata-